Mae Dr Peter Mackie a Dr Ian Thomas, sy’n arweinwyr academaidd corff gwaith Tai a Digartrefedd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru), yn trafod eu cynlluniau i archwilio cyfraddau heintiadau Covid-19 ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru.
Yn ystod y pandemig Covid-19, daeth gwahaniaethau i’r amlwg o ran y risg o ddal y feirws. Mae cyfraddau heintiadau a marwolaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19 yn amrywio yn ôl rhyw, ethnigrwydd a statws economaidd-gymdeithasol. Ac eto, mae tai yn fater iechyd cyhoeddus sy’n aml yn croestorri â statws economaidd-gymdeithasol a nodweddion gwarchodedig eraill, gyda chorff mawr o dystiolaeth yn cysylltu amodau tai gwael â chanlyniadau iechyd gwaeth.
Ar ddechrau’r pandemig Covid-19, roedd pryderon am y risg gynyddol o heintiadau, cyfnodau mewn ysbyty, a marwolaeth ymhlith poblogaethau digartref [1]. Mae profi digartrefedd yn gallu golygu gorfod rhannu lle mewn llety dros dro neu lety anaddas, ac mewn rhai achosion, gall pobl fod heb gyfleusterau glanweithiol. Felly, gall pobl ddigartref wynebu anawsterau o ran cadw pellter cymdeithasol, ynysu pan maent yn sâl, a chynnal hylendid dwylo.
Mae astudiaethau ar lochesau brys ar gyfer pobl sy’n profi digartrefedd ledled yr Unol Daleithiau ac ym Mharis yn awgrymu bod gorlenwi yn gysylltiedig â chyfraddau heintiadau uwch [2]. Ond mae digartrefedd yn cwmpasu ystod eang o brofiadau. Ochr yn ochr â phobl mewn llochesau, gall digartrefedd gynnwys bod ar y strydoedd, aros gyda theulu neu ffrindiau (‘syrffio soffas’) neu fod mewn tai rhent gorlawn. Gan ddefnyddio cysylltedd data, ein nod yw archwilio’r grŵp ehangach hwn o bobl sy’n profi digartrefedd.
Defnyddio cysylltedd data i archwilio digartrefedd a risg Covid-19 yng Nghymru
Mae data profion Covid-19 ar gyfer Cymru wedi dod ar gael yn ddiweddar i ymchwilwyr cymeradwy gael mynediad atynt drwy Fanc Data SAIL. Gyda mynediad at y data dienw hyn, rydym yn bwriadu defnyddio data Gofal Sylfaenol a data iechyd eraill i nodi pobl sy’n adrodd eu bod yn ddigartref yng Nghymru. Wedyn, byddwn yn creu grŵp cymharu cyfatebol yn seiliedig ar oedran, rhyw a nodweddion ardal. Yna, gellir cymharu cyfraddau heintiadau Covid-19 rhwng y grŵp digartref a grwpiau cyfatebol.
Bydd y gwaith hwn yn darparu dadansoddiad ôl-weithredol pwysig o gyfraddau heintiadau Covid-19 ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru. O fewn terfynau’r set ddata, bydd hyn yn rhoi syniad o’r graddau y gallai mesurau a gymerwyd yng Nghymru fod wedi effeithio ar y lefelau uchel o heintiadau a ragwelwyd ymhlith y boblogaeth ddigartref.
Bydd y gwaith hwn yn cael ei gynnal fel rhan o gorff gwaith Tai a Digartrefedd YDG Cymru gan ddefnyddio data profion Covid-19 a gafwyd yn wreiddiol gan dîm YDG Cymru i gynorthwyo ymateb Cymru’n Un i Covid-19 yng Nghymru. Mae Cymru’n Un yn dod â sefydliadau ynghyd o bob rhan o Gymru i ddarparu arbenigedd a dadansoddiad ymateb cyflym i gynorthwyo dealltwriaeth o’r pandemig yng Ngrŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y DU.
Dysgwch fwy am gorff gwaith Tai a Digartrefedd YDG Cymru.
Cyfeirnodau
[1] Lewer, D., Braithwaite, I., Bullock, M. et al., (2020) COVID-19 among people experiencing homelessness in England: a modelling study. The Lancet. 8:1181-1191.[2] Gweler er enghraifft: Karb, R., Samuels, E., Najani, R. et al., (2020) Homeless shelter characteristics and prevalence of SARS-CoV-2. Western Journal of Emergency Medicine. 21(5):1048-1053; Roederer, T., Mollow, B., Vincent, C. et al., (2021) Seroprevalence and risk factors of exposure to COVID-19 in homeless people in Paris, France: a cross-sectional study. Lancet Public Health. 6:e202-209.
