Gosod yr olygfa

Mae llawer i’w hoffi am ffermio. Mae llawer i’w barchu hefyd am ffermwyr a’u teuluoedd. Yn ôl natur amaethyddiaeth, mae ffermydd yn dueddol o fod yn anghysbell ac mewn rhannau gwledig o’r wlad sydd â phoblogaeth wasgaredig, ac ardaloedd sydd hefyd yn tueddu i fod yn llai llewyrchus, â llai o gyfleoedd cyflogaeth. Yn aml, mae’r gwaith yn gorfforol feichus gyda diwrnodau hir a dechrau’n gynnar; ac mae angen i ffermwyr fod yn annibynnol ac yn hunanddibynnol. Yn achos ffermydd teuluol, mae’r cartref teuluol yn rhan annatod o’r busnes, ond o ganlyniad, os bydd y busnes yn methu gall y teulu golli eu cartref lle bu cenedlaethau o’u blaen yn byw a gweithio.

Yn ogystal, caiff ffermio ei effeithio gan nifer o ffactorau allweddol y tu hwnt i reolaeth y diwydiant ei hun neu ffermwyr unigol. Y tywydd yw’r un mwyaf amlwg, ond mae prisiau nwyddau, pris olew, y galw gan ddefnyddwyr a materion masnach fyd-eang, yn gallu newid yn gyflym a heb fawr o rybudd. Er bod yr holl ffactorau hyn yn helpu i greu ffordd o fyw unigryw ffermio a’r manteision posibl a ddaw yn ei sgil, maent hefyd yn dod â chyfuniad unigryw o bwysau a heriau.

Pam mae cysylltu data’n ddefnyddiol?

Cynhaliwyd y cyfrifiad amaethyddol llawn cyntaf ym 1865, felly mae Defra a’i rhagflaenwyr wedi cadw data dibynadwy ar ffermydd ers dros ganrif a hanner. Mae’r cyfrifiad – ac yn fwy diweddar yr arolygon blynyddol sydd wedi ei ddisodli – yn darparu ystadegau dibynadwy a manwl ar ddefnydd tir, arwynebedd cnydau, niferoedd da byw, a llafur. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod aelodau eraill y teulu yn gwneud gwaith di-dâl yn aml ar y fferm, bod ganddynt swyddi eraill oddi ar y fferm, neu eu bod yn cyfuno gwaith oddi ar y fferm â gweithgareddau ffermio. Ond a ydynt yn gweithio ar y fferm oherwydd eu bod yn mwynhau’r gwaith, neu a yw’n hanfodol ar gyfer hyfywedd busnes y fferm? Ac yn yr un modd, os ydynt yn dal swyddi eraill oddi ar y fferm, ai dewis neu reidrwydd yw hyn?

Wrth gydgysylltu data’r cyfrifiad amaethyddol am fusnesau fferm â data am yr aelwydydd (oedran, galwedigaeth, addysg, iechyd), rydym yn disgwyl i setiau data AD|ARC roi dealltwriaeth i ni ar gwestiynau megis:

  • Sut mae pwysau ffermio yn effeithio ar ffordd o fyw, iechyd a lles aelwydydd fferm?
  • A yw’r pwysau’n bodoli’n uniongyrchol oherwydd ffermio ei hun neu a oes ffactorau eraill sy’n gysylltiedig â ffermio? Os yw’r olaf yn wir, beth ydym ni’n ei wybod am hyn, neu beth allwn ni ei ddysgu gan fusnesau neu aelwydydd eraill sy’n wynebu’r pwysau hyn?
  • Beth yw natur yr effeithiau ar iechyd a lles? Ai’r gofynion corfforol caled sy’n achosi’r effeithiau, neu a yw pwysau hirdymor cyson y ffactorau sydd y tu hwnt i reolaeth yn niweidiol i iechyd meddwl?
  • A yw rhai ffermydd a’u haelwydydd yn fwy gwydn nag eraill wrth ymdrin â’r pwysau hyn, ac os felly, a yw hyn yn gysylltiedig â gwahaniaethau systematig yn y ffordd y caiff ffermydd eu rhedeg, neu a oes gwahaniaethau unigol rhwng y bobl dan sylw?
  • A oes strategaethau i reoli’r pwysau yn well, neu a yw’n fater o’r ffordd y mae ffermwyr a’u teuluoedd yn ymateb i’r pwysau hyn?

Beth nesaf?

Fel ystadegydd, anaml y byddaf yn ymweld â ffermydd, ac mae’n hawdd iawn canolbwyntio ar ddarparu datrysiad technegol, ond mewn gwirionedd, dylid ystyried hynny yn ddechrau’r broses yn unig. Yn fy marn i, dylid barnu llwyddiant setiau data AD|ARC yn y pen draw yn ôl y ffordd y defnyddir y data a ph’un a yw hyn yn gwneud gwahaniaeth yn y byd go iawn. Felly gyda hynny mewn golwg, rydym yn ymgysylltu cymaint ag y gallwn â’r gymuned ffermio, eu cynrychiolwyr ac yn wir yr holl randdeiliaid, gan weithio’n agos â nhw i sicrhau bod dadansoddiad o’r data yn llywio cymaint o benderfyniadau â phosibl.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â thîm y prosiect yn AD-ARC@gov.wales.