Dr Ian Thomas a Dr Pete Mackie yw’r arweinwyr ar gyfer yr ymchwil tai a digartrefedd a gyflawnir gan ADR Cymru. Yn y blog hwn, mae Ian yn amlinellu canfyddiadau annisgwyl dadansoddiad diweddaraf y tîm sy’n edrych ar gyfraddau heintio Covid-19 ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru.

Yn gynharach eleni, soniom am brosiect yr oeddem newydd ddechrau arno, gan ddefnyddio cyswllt data a data Covid-19 newydd yn SAIL i archwilio cyfraddau coronafeirws ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru. Ar ôl cwblhau a chyhoeddi ein dadansoddiad yn ddiweddar, roedd y canlyniadau’n annisgwyl.

O ddechrau’r pandemig roedd ofnau yn y sector tai y byddai lefelau’r haint yn uchel ymhlith pobl sy’n ddigartref. Ond yn ddiddorol, canfuom dystiolaeth oedd yn awgrymu bod y gwrthwyneb wedi digwydd yng Nghymru. Hyd yn oed wrth gymharu pobl o’r un nodweddion daearyddol a phersonol, yma yng Nghymru roedd lefelau’r haint yn is ymhlith pobl ddigartref na’r boblogaeth ehangach.

Pam felly? Yn ystod y pandemig, ystyriwyd digartrefedd yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Roedd ymdrech tuag at ymagwedd ‘neb yn cael eu gadael allan’, a oedd yn golygu bod pobl ar y stryd wedi cael cynnig llety nad oeddent efallai wedi cael mynediad ato cyn y pandemig. Rhoddwyd pwyslais hefyd ar letya pobl mewn llety dros dro hunangynhwysol. Wrth edrych ar y ffigurau diweddaraf hyd at fis Medi 2021, roedd dros 15,300 o bobl wedi cael cymorth i gael llety dros dro brys ers dechrau’r pandemig.

Fe wnaeth y newidiadau i bolisi yng Nghymru leihau’r haint a achoswyd gan fannau cymunedol a rennir, gan ddarparu amgylcheddau i bobl ddigartref lle gallent ynysu pe bai angen a lle y gostyngwyd y siawns o gymhlethdodau yn gysylltiedig â Covid-19, fel niwmonia.

Felly, beth sydd nesaf ar gyfer y gwaith hwn? Rydyn ni nawr yn bwriadu dilyn y dadansoddiad cychwynnol hwn drwy edrych ar y nifer sy’n cael brechiadau coronafeirws ymhlith pobl ddigartref. Bydd y gwaith pellach hwn yn helpu asesu a oedd y polisiau a oedd yn blaenoriaethu pobl ddigartef yng Nghymru wedi arwain wedyn at gynnydd yn y nifer a gafodd brechiadau. Caiff y ddwy set o ganfyddiadau eu bwydo’n ôl i’r timau polisi yng Nghymru a’r sefydliadau sy’n gweithio ochr yn ochr â’r rheiny sy’n ddigartref. Bydd hyn yn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o’r ffordd yr oedd yr ymyriadau hyn yn effeithio ar y gymuned ddigartref ac, yn bwysicaf oll, eu lles.