Mae’r alwad am grynodebau galwad am grynodebau ar gyfer cynhadledd YDG DU 2025 Cynhadledd YDG DU a gynhelir gan YDG Cymru bellach ar agor.

Yn cael ei chynnal yng nghanol Caerdydd ym mis Medi 2025, bydd y gynhadledd yn dwyn y thema ‘O gofnodion i ymchwil: Harneisio data gweinyddol er mwyn gwella bywydau’.

Gan ddechrau gyda diwrnod o weithdai cyn-gynhadledd ar 16eg Medi, cynhelir y brif gynhadledd ddeuddydd ar 17eg a 18fed Medi. Dylai cyflwyniadau crynodebau ymwneud â thema’r gynhadledd a’i his-themâu, fel a ganlyn:

  • Dulliau, systemau ac arloesiadau ar gyfer cysylltu a dadansoddi data
  • Moeseg, llywodraethu, ymgysylltu â’r cyhoedd a chynnwys y cyhoedd
  • Canfyddiadau ymchwil ac effaith
  • Hyfforddiant a meithrin gallu

Mae trefnwyr y gynhadledd yn gwahodd cynigion ar gyfer cyflwyniadau a gweithdai am gynhadledd YDG DU 2025 gan ddefnyddio canllawiau cysylltiedig.

Ewch i gwefan y gynhadledd am ragor o wybodaeth a dolenni i gynhadledd YDG DU 2025 cyflwyno crynodeb.

Yn ogystal â’r brif gynhadledd, bydd partner YDG Cymru, Datacise Open Learning yn cychwyn wythnos y gynhadledd gyda datathon wedi’i gynllunio i sbarduno arloesi rhwng data cymdeithasol a data iechyd ar 15 ac 16 Medi. Dan y teitl ‘Gwrthdrawiad lle mae cymdeithasol yn cwrdd ag iechyd’ “Data collision: Where social meets health,” mae’r datathon yn edrych i greu synergeddau yn y gymuned ymchwil i ddod o hyd i ganlyniadau effeithiol i heriau’r byd go iawn.