Bydd Cynhadledd ADR UK 2025, a gynhelir gan YDG Cymru yng Nghaerdydd ar 17-18 Medi, yn archwilio sut y gall data gweinyddol fod yn arf pwerus ar gyfer effaith gymdeithasol gadarnhaol, ac rydym am i chi fod yn rhan ohono.
Yn y blog hwn, mae Steph Howarth, Cyd-gyfarwyddwr YDG Cymru a Phrif Ystadegydd Cymru, yn rhannu ei brwdfrydedd am y gynhadledd eleni. Fel aelod o’r Pwyllgor Gwyddonol, mae’n edrych ymlaen at weld ymchwil arloesol sy’n dangos pŵer data gweinyddol er lles y cyhoedd.
Mynychais Gynhadledd ADR UK 2023 ym Mirmingham, ac roedd yn gyfle gwych i gysylltu ag eraill yn y maes, cyfnewid syniadau, a dysgu o ymchwil effeithiol. Ac mae eleni yn argoeli i fod yr un mor ysbrydoledig! Peidiwch â cholli’r cyfle i rannu eich mewnwelediadau, cydweithio â chyd-arbenigwyr, a chyfrannu at faes cynyddol ymchwil wedi’i yrru gan ddata.
Cyflwynwch eich crynodeb heddiw, a byddwch yn rhan o ddigwyddiad trawsnewidiol sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.
