Mae Dr Ffion Lloyd-Williams yn uwch swyddog ymchwil sy’n goruchwylio’r gwaith o gyflawni prosiect cysylltu data’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE gan Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru. Yma, mae Ffion yn trafod canfyddiadau allweddol yr adolygiad gan y tîm o’r llenyddiaeth sy’n edrych ar brofiadau gwladolion yr Undeb Ewropeaidd yn byw yn y Deyrnas Unedig (DU) cyn ac ar ôl refferendwm yr UE.

Yn dilyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, datblygodd llywodraeth y DU y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS), a lansiwyd ar 30 Mawrth 2019. Cyflwynwyd yr EUSS ar gyfer amcangyfrif o 3.7 miliwn o ddinasyddion o’r UE, o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) ac o’r Swistir, a’u teuluoedd a oedd yn byw yn y DU ac yn dymuno cadw eu statws preswylio a gweithio yn y DU wedi i symudiad rhydd ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

Nod prosiect cysylltu data’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) gan YDG Cymru yw darganfod os yw dinasyddion EUSS yn cael profiadau gwahanol i ddinasyddion Prydain. Rydym yn gobeithio gallu amlygu meysydd posibl o wahaniaethu neu anghydraddoldeb a datblygu set ddata a fydd yn galluogi ymchwilwyr a llunwyr polisi i gael dealltwriaeth well o brofiadau dinasyddion yr UE sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog a statws preswylydd sefydlog.

Er bod ein prosiect yn defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ddata, roeddem yn awyddus i gasglu gwybodaeth o’r llenyddiaeth ymchwil ehangach. Ar y cyfan, edrychwyd ar 80 o astudiaethau, a oedd yn cynnwys 48 o erthyglau cyfnodolion a 32 o adroddiadau. Mae prosiect cysylltu data’r EUSS yn archwilio materion iechyd, addysg a phlant, cyflogaeth, budd-daliadau a lles, a phrofiad dinasyddion yr UE o fyw yng Nghymru, felly roeddem yn awyddus i nodi’r darlun o amgylch y meysydd hyn.

Ein canfyddiadau

Profiadau o fyw yn y DU

Roedd y ffocws ar brofiad dinasyddion yr UE o fyw yn y DU yn dilyn refferendwm yr UE a’r broses o wneud cais i’r EUSS, gyda’r mwyafrif o gyhoeddiadau’n ymwneud â phrofiadau gwladolion Pwylaidd. Er bod gwladolion Pwylaidd wedi profi hiliaeth a senoffobia cyn refferendwm yr UE, mae’n bosibl iawn fod y canfyddiad o gynnydd yn y digwyddiadau hyn wedi cyfrannu at ansicrwydd a phryder gwladolion Pwylaidd (a gwladolion eraill yr UE) am y dyfodol.

Roedd penderfyniadau i wneud cais am statws sefydlog yn gymhleth, gydag ymatebwyr yn pryderu am ganlyniadau ymadawiad y DU â’r UE, ac eto roedd y mwyafrif yn hyderus ynghylch eu hawl i aros a’u hymdeimlad o ddiogelwch yn y DU. Roedd penderfyniadau ynghylch aros yn y DU ar ôl refferendwm yr UE wedi’u seilio ar amrywiaeth o amgylchiadau personol a digwyddiadau bywyd ac ystod o ystyriaethau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys ffioedd ymgeisio, cyfyngiadau cymhwysedd, a’r hawl i genedligrwydd deuol. Hefyd, roedd agweddau tuag at frodori yn amrywio’n sylweddol ymhlith gwladolion yr UE, gyda gwladolion yr UE ag incwm uwch, y rhai â lefelau uwch o addysg, a dinasyddion yr UE14 yn dangos mwy o wrthwynebiad i wneud cais i ddod yn Brydeinig, ar sail foesol a gwleidyddol.

Roedd data ar gyfer deall yr EUSS yn gyfyngedig oherwydd diffyg gwybodaeth am nifer dinasyddion yr UE sy’n gymwys i wneud cais. Roedd arwyddion bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr proses ymgeisio ar-lein yr EUSS yn ei chael yn ymarferol ac yn hygyrch o ran yr iaith a ddefnyddiwyd. Fodd bynnag, roedd ymdeimlad cryf o ansicrwydd a phryder ymhlith ymatebwyr o ran teimlo a oedd croeso iddynt a’u bod wedi’u hintegreiddio yn y DU.

Canlyniadau o ran iechyd

Iechyd meddwl oedd prif ffocws y dystiolaeth yn y maes hwn. Ymddengys bod agweddau negyddol ar iechyd meddwl yn gyffredin cyn refferendwm yr UE, oherwydd gwahaniaethu, arwahanrwydd ac anghynefindra â’r diwylliant. Fodd bynnag, ar ôl y refferendwm, mae’n ymddangos bod teimladau o ansicrwydd a diffyg derbyniad wedi gwaethygu.

Cafwyd adroddiadau hefyd am anawsterau o ran cael mynediad i ofal iechyd yn y DU a’r defnydd ohono, oherwydd rhwystrau iaith a diffyg dealltwriaeth o’r ffordd y mae system iechyd y DU yn gweithredu.

Profiadau plant

Roedd plant a phobl ifanc yn wynebu bregusrwydd arbennig mewn perthynas â’r broses ymgeisio am yr EUSS. Roedd hyn oherwydd man geni, diffyg gwybodaeth neu ddealltwriaeth rhieni ynghylch pryd y gall eu plant gael eu cofrestru fel dinesydd Prydeinig, a diffyg cymhwysedd rhieni i gael dinasyddiaeth.

Roedd heriau o ran cymhwysedd plant a’u gallu i wneud cais am yr EUSS yn cael eu gwaethygu ymhellach ar gyfer grwpiau o blant sy’n agored i niwed, fel y rhai mewn gofal ac o fewn cymunedau Roma. Mae tystiolaeth yn awgrymu nad oes gan y grwpiau bregus hyn y dystiolaeth ddogfennol sydd ei hangen i wneud cais i fodloni meini prawf cofrestru’r EUSS

Rhwystrau rhag addysg

Iaith a diffyg cynefindra â system addysg y DU oedd yn achosi’r rhwystr mwyaf rhag addysg i blant dinasyddion yr UE. Roedd ysgolion cynradd ac uwchradd wedi profi heriau lle nad oedd gan ddisgyblion lawer o Saesneg, ond roeddent hefyd yn anghyfarwydd ag agweddau addysgu, dysgu a diwylliannol bywyd ysgol. Gwaethygwyd hyn pan gyrhaeddodd plant ym mlynyddoedd olaf addysg orfodol, gyda heriau arbennig yn gysylltiedig â chaffael Saesneg i’r lefel angenrheidiol i basio arholiadau.

Roedd addysg oedolion yn cael ei ystyried yn brofiad mwy cadarnhaol, gyda dinasyddion yr UE yn gallu caffael sgiliau newydd a gwella eu hiaith Saesneg. Felly, roedd yn darparu ffordd o sicrhau cyfleoedd cyflogaeth gwell.

Cyflogaeth

Roedd llawer o ddinasyddion yr UE yn orgymwys ar gyfer eu cyflogaeth. Roedd cyflogaeth dinasyddion yr UE yn y farchnad lafur yn amrywiol o ran y sector cyflogaeth, statws economaidd-gymdeithasol, a hyd eu cyfnod yn y DU. Roedd y rhai o wledydd yr UE14 yn fwy tebygol o fod mewn galwedigaethau medrus na’r rhai a gyrhaeddodd o wledydd a ymunodd â’r UE ar ôl 2003 (Bwlgaria, Croatia, Cyprus, Tsiecia, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Malta, Gwlad Pwyl, Rwmania, Slofacia a Slofenia) .

Roedd arwyddion y gallai gwladolion iau a mwy cymwys o’r UE, a’r rhai a symudodd i’r DU yn y blynyddoedd diwethaf, adael y DU. Fodd bynnag, er bod canlyniad refferendwm yr UE wedi creu ansicrwydd, roedd dinasyddion yr UE yn bwriadu parhau i fyw yn y DU, o leiaf yn y tymor byr i’r tymor canolig.

Budd-daliadau a Lles

Roedd llywio’r system budd-daliadau lles yn cael ei lesteirio ymhellach gan rwystrau ieithyddol a diwylliannol, a waethygwyd ymhellach gan ganfyddiadau o system a oedd yn stigmateiddio ac yn gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion Dwyrain Ewrop. Eto i gyd, dangosodd tystiolaeth fod dinasyddion yr UE yn llai tebygol na’r rhai a aned yn y DU i hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth neu gredydau treth, gyda mudwyr o wledydd UE2 (Bwlgaria a Rwmania) yn hawlio budd-daliadau yn 74% yn unig o’r dinasyddion UE8 (sef y rhai o’r Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Slofacia a Slofenia).

Hefyd, roedd dinasyddion yr UE yn fwy tebygol o hawlio budd-daliadau mewn gwaith yn hytrach na budd-daliadau diweithdra na dinasyddion a aned yn y DU, ac roedd gan ddinasyddion yr UE8 a’r UE2 debygolrwydd cyflogaeth tebyg.

Beth nesaf?

Mae’r adolygiad wedi rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth o’r ffordd y mae gwladolion yr UE sy’n byw yn y DU yn llywio eu bywydau, ac effaith refferendwm yr UE a’r EUSS dilynol. Mae’r wybodaeth a gafwyd yn llywio’r meysydd data allweddol y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt ar gyfer prosiect cysylltu data’r EUSS.

Ar sail y dystiolaeth a nodwyd yn yr adolygiad, mae angen ymchwil pellach i amcangyfrif manteision a chostau llawn gadael yr UE – mewn perthynas ag ymfudwyr neu ddarpar ymfudwyr o’r gwledydd hyn – i’r DU mewn cyd-destun cymdeithasol ac economaidd.

Darllenwch yr adolygiad llawn o’r llenyddiaeth.