Trosolwg
O bandemig Covid-19 i newid yn yr hinsawdd a chostau byw, mae cymdeithas fodern yn wynebu heriau digynsail, a bydd yr effeithiau yn cael eu teimlo gan genedlaethau i ddod. Er mwyn mynd i’r afael â meysydd blaenoriaeth a nodwyd ar hyn o bryd a meysydd newydd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer llywodraeth, mae YDG Cymru wedi creu ffrwd waith Heriau Cymdeithasol Mawr, a fydd yn monitro, gwerthuso ac ymchwilio i effeithiau Heriau Cymdeithasol Mawr dros amser ac ar draws cenedlaethau ar gyfer y boblogaeth gyfan.
Covid-19 fydd ffocws cychwynnol y ffrwd waith hon, â ffocws cynnar ar y Pandemig | Ymchwil Data Gweinyddol (PAND|AR) prosiect. Bydd PAND|AR yn canolbwyntio ar y dull pum niwed, gan edrych yn fanwl ar y niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol sy’n deillio o bandemig Covid-19 ar unigolion, gwasanaethau ac anghydraddoldebau ar raddfa poblogaeth, ac adferiad o’r pandemig.
Blaenoriaethau
Covid-19 fydd ffocws cychwynnol y ffrwd waith hon, gyda ffocws cynnar ar y prosiect Pandemig | Ymchwil Data Gweinyddol (PAND|AR). Bydd PAND|AR yn canolbwyntio ar y dull pum niwed, gan edrych yn fanwl ar y niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol sy’n deillio o’r pandemig Covid-19 ar unigolion, gwasanaethau, ac anghydraddoldebau ar raddfa poblogaeth, ac adferiad o’r pandemig. Byddwn yn astudio niwed sy’n deillio o heintiau, megis mynd i’r ysbyty, cyfraddau ail-heintio a chanlyniadau andwyol eraill yn dilyn heintiad Covid-19. Caiff anghydraddoldebau cysylltiedig sy’n deillio o’r pandemig Covid-19 eu gwerthuso, gan gynnwys mynediad at wasanaethau neu oedi ac unrhyw risgiau cysylltiedig, ynghyd â niwed anuniongyrchol pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn edrych ar niwed sy’n deillio o fesurau diogelu iechyd ar lefel y boblogaeth, megis niwed addysgol, niwed seicolegol ac ynysu rhag gwarchod a mesurau eraill.
Byddwn yn edrych ar y niweidiau economaidd, megis diweithdra a llai o incwm busnes, sy’n deillio yn uniongyrchol o Covid-19, a mesurau rheoli poblogaeth, megis cyfyngiadau symud. Byddwn yn edrych ar y niwed sy’n deillio o’r ffordd y mae Covid-19 wedi gwaethygu anghydraddoldebau presennol neu newydd yn ein cymdeithas, megis anghydraddoldebau daearyddol a gofodol, anfantais groestoriadol, anghydraddoldebau addysg a waethygwyd gan Covid-19, a bregusrwydd economaidd. Byddwn yn gwerthuso ymyriadau posib a dulliau cenedlaethol o wella o’r pandemig Covid-19, gan gynnwys y rhaglen frechu, y nifer sy’n cael eu brechu, diogelwch, y dirywiad a’r digwyddiadau andwyol a allai ddeillio o frechu, ac unrhyw anghydraddoldebau posib o ran mynediad at frechiadau a ddylai gael ymyriadau wedi’u targedu’n well. Caiff manteision posib yr ymyriadau hyn eu hystyried hefyd.
Rydym yn bwriadu datblygu cyfres o asedau data parod ar gyfer ymchwil (RRDA) a phiblinellau ymchwil y gellir eu hatgynhyrchu a fydd yn gwasanaethu, yn y tymor hwy, i fonitro, gwerthuso ac ymchwilio i effeithiau heriau cymdeithasol mawr eraill sy’n codi ar draws y cenedlaethau.
Prosiectau
Arfarnu rhaglen gyflwyno brechiad Covid-19 yng Nghymru, a ledled y DU
Mae’r prosiect hwn yn anelu at ddarparu tystiolaeth ar gwmpas ac amseroldeb brechiadau Covid-19.
Bydd yn edrych ar:
- Anghydraddoldebau ymgymryd ar gyfer brechiadau Covid-19 a ffliw rhwng 2020 a 2021.
- Y risg o dderbyniadau ysbyty a marwolaethau Covid-19 ar ôl brechiadau atgyfnerthu Covid-19 hydref 2022.
- Cysylltiadau â thanfrechu yn erbyn Covid-19 yn haf 2022 a risg ddilynol o dderbyniad ysbyty a marwolaethau Covid-19.
- Tueddiadau mewn heintiad SARS-CoV-2 a brechu mewn staff ysgolion, myfyrwyr ac aelodau eu haelwydydd o 2020-2022 yng Nghymru
Ar y cyd, bydd y cwestiynau hyn yn cyd-fynd a gwaith sy’n digwydd ledled y DU, fydd yn cynorthwyo monitro ac arfarnu ansawdd brechlyn.
Anghydraddoldebau mewn digwyddiadau iechyd difrifol yn dilyn heintiad o Covid-19.
Bydd y prosiect hwn yn dilyn ymlaen o waith blaenorol a edrychodd ar anghydraddoledebau iechyd mewn marwolaethau a derbyniadau ysbyty Covid-19 yng Nghymru. Bydd yn dadansoddi derbyniadau a marwolaethau perthynol i Covid-19 gan edrych ar beth yw’r ffactorau cyfryngol ar gyfer anghydraddoldebau yn dilyn Covid-19.
Covid-19 a Covid Hir – Beth yw’r effaith ar anghydraddoldebau o fewn cymdeithas?
Bydd y prosiect hwn yn edrych ar amlder a digwyddiad effeithiau tymor hir Covid-19 yng Nghymru â’r nod o adnabod os yw’r effeithiau yn amrywio ar draws grwpiau poblogaeth gwahanol. Bydd y canfyddiadau yn darparu tystiolaeth ar y nifer o achosion a gofnodwyd o Covid Hir yng Nghymru, gan gynorthwyo dealltwriaeth o gyflawnder ansawdd y codio a defnyddioldeb y data ar gyfer ymchwil y dyfodol.