Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i’n gweledigaeth o sicrhau llesiant pobl sy’n cael mynediad at ofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth.
Rydym yn falch o fod yn trafod â Gofal Cymdeithasol Cymru am eu rôl weithredol yng ngweithgareddau gofal cymdeithasol YDG Cymru.
Yn y cyfnod cyllido YDG Cymru blaenorol, llwyddwyd i gaffael ffynonellau data gofal cymdeithasol plant ar gyfer dadansoddi data cysylltiedig. Mae’r ffynonellau data hyn yn galluogi nifer o weithgareddau ymchwil cysylltu data pwysig (ee, o Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield a’r Ganolfan Ymchwil a Datblygiad Gofal Cymdeithasol Plant).
Yn y cyfnod newydd hwn, mae ein sylw yn troi at ofal cymdeithasol oedolion. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid gofal cymdeithasol, gan gynnwys awdurdodau lleol a darparwyr gofal yn y sector annibynnol i nodi blaenoriaethau ymchwil a dylunio prosiectau ymchwil ar ofal cymdeithasol oedolion.
Byddwn yn cefnogi datblygiad y cyfrifiad gofal cymdeithasol oedolion, er mwyn sicrhau, pan fydd wedi’i gwblhau, y bydd ar gael ar gyfer dadansoddi data cysylltiedig.Yn y cyfamser, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu prosiectau ennill cyflym gan weithio gyda’u data.
Byddwn yn anelu at ysgogi syniadau prosiect dadansoddi data cysylltiedig ar ofal cymdeithasol oedolion yn y gymuned academaidd ehangach.
Er mai gofal cymdeithasol oedolion fydd y prif ffocws yn y maes hwn, byddwn yn parhau i hwyluso’r broses o gyflenwi data gofal cymdeithasol plant wedi’i ddiweddaru a, phe bai angen blaenoriaethol o ran tystiolaeth yn dod i’r amlwg ar ofal cymdeithasol plant nad yw’n cael sylw mewn man arall, byddwn yn bwrw ymlaen â hyn o dan y thema gofal cymdeithasol.