Mae’r Mewnwelediad Data hwn yn darparu dadansoddiad rhagarweiniol o ddata practisau cyffredinol (Meddygon Teulu) sy’n ymwneud ag unigolion a anwyd yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy’n byw yng Nghymru, ac unigolion a anwyd yng Nghymru sy’n byw yng Nghymru. Mae’r ffocws ar ddigwyddiadau iechyd meddwl yr adroddir amdanynt (hynny yw, digwyddiad yn cael ei ddosbarthu fel ymweliad â Meddyg Teulu).