Yn y blog hwn, mae Stephen Drinkwater, Athro Economeg yn yr Ysgol Fusnes ym Mhrifysgol Roehampton ac arweinydd academaidd i Brosiect Cyswllt Data Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS), yn ystyried y data diweddaraf sydd ar gael ar geisiadau a wnaed i’r Swyddfa Gartref am Statws Preswylydd Sefydlog yr UE a sut mae’r data hwn yn helpu i lywio’r prosiect sy’n cael ei arwain gan YDG Cymru.

Mae Prosiect Cyswllt Data EUSS yn defnyddio ystod o ddata wedi’i ddad-adnabod a gedwir ym Manc Data SAIL, i roi cipolwg ar feysydd allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru. Mae’r cipolygon hyn yn cynnwys canlyniadau mudwyr o’r UE mewn perthynas ag addysg a’r farchnad lafur, a pha fath o wasanaethau iechyd y bu’r unigolion hyn yn eu cyrchu o’u cymharu â grwpiau rheoli neu gyfeirio eraill.

Un newid pwysig i fudo yn sgil canlyniad Brexit oedd cyhoeddi yn 2018 y byddai angen i holl ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU wneud cais am yr EUSS pe byddent am barhau i fyw yn y DU. Gall ceisiadau am statws preswylydd sefydlog gael eu gwneud gan bobl oedd wedi byw yn y DU am bum mlynedd o leiaf hyd at ddiwedd 2020. Mae’r rhai a fu yn y DU am lai na phum mlynedd yn gorfod gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog yn y lle cyntaf ac yna am statws preswylydd sefydlog pan fyddant wedi bod yn y DU ers pum mlynedd. Gall plant dan 21 oed hefyd gael statws preswylydd sefydlog os bydd o leiaf un o’u rhieni wedi cael statws o’r fath, hyd yn oed os ydynt yn y wlad ers llai na phum mlynedd.

Yn ystod y misoedd diwethaf, rhyddhawyd data manwl ar geisiadau EUSS gan y Swyddfa Gartref ar gyfer gwledydd o fewn y DU sy’n nodi bod cyfanswm o 98,600 o geisiadau EUSS wedi’u gwneud yng Nghymru rhwng Awst 2018 a Mehefin 2021, o gymharu â 6,015,400 yn y DU gyfan.

Yn y cyfnod hyd at fis Mawrth 2021 yng Nghymru, Caerdydd oedd yr awdurdod unedol gyda’r nifer uchaf o geisiadau (21,200), ac yna Casnewydd (9,450) ac Abertawe (8,120). Yr unig awdurdodau unedol eraill lle’r oedd dros 5,000 o geisiadau EUSS wedi’u gwneud oedd Wrecsam (7,940) a Sir y Fflint (7,520).

O’r ceisiadau hyn:

  • Cafodd 82,960 eu cwblhau gyda phenderfyniad wedi’i wneud.
  • Roedd 58% o’r ceisiadau am statws preswylydd sefydlog a 39% am statws preswylydd cyn-sefydlog.
  • Roedd y 3% arall naill ai wedi’u gwrthod, eu tynnu’n ôl, yn ddi-rym neu’n annilys.

O ran cenedligrwydd:

  • Gwladolion Pwyl a wnaeth y nifer uchaf o geisiadau, oedd yn gyfrifol am 32% o gyfanswm Cymru.
  • Daeth y nifer uchaf nesaf o geisiadau gan wladolion Rwmania, oedd yn cyfrif am 15% o gyfanswm Cymru.
  • Roedd mathau eraill o genedligrwydd yn cyfrif am lai na 7% yr un o gyfanswm Cymru.
  • Yn ddiddorol, gwnaethpwyd dros 2,000 o geisiadau gan bobl â chenedligrwydd o’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Gwnaed 83% o geisiadau Cymru gan bobl rhwng 18 a 64 oed a 14% gan rai dan 18 oed. Roedd y proffil oedran hwn yn debyg iawn i broffil ymgeiswyr yr UE yn Lloegr a’r Alban, ond yn hŷn nag ymgeiswyr o Ogledd Iwerddon.

Mae’n bwysig cael amcangyfrifon cywir o wladolion o’r UE sy’n byw yng Nghymru fel y gellir gwneud penderfyniadau polisi mwy hyddysg a darparu gwasanaethau priodol ar gyfer y grwpiau hyn. Fodd bynnag, bu rhywfaint o ddadlau ynghylch dibynadwyedd defnyddio ceisiadau EUSS fel cofnod o wladolion yr UE sy’n byw yn y DU. Er enghraifft, mae nifer y bobl sy’n cofrestru ar yr EUSS yn llawer uwch nag amcangyfrifon o wladolion yr UE sy’n byw yn y DU a gynhyrchir o ffynonellau megis yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS). Mae hyn oherwydd bod y data diweddaraf o’r arolwg hwnnw (sy’n ymwneud â Gorffennaf 2019-Mehefin 2020) yn nodi bod tua 3.51 miliwn o wladolion yr UE yn byw yn y DU, sy’n llawer is na’r 6.01 miliwn o geisiadau EUSS a wnaed. Mae’r anghysondeb cymharol yng Nghymru yn llai: amcangyfrifodd yr arolwg boblogaeth o 78,000 o wladolion yr UE o’i chymharu â 98,600 o geisiadau EUSS Cymru. Mae hyn yn awgrymu bod llawer o geisiadau EUSS wedi’u gwneud efallai gan unigolion nad ydynt bellach yn byw yn y DU, neu nad yw’r arolwg wedi llawn werthfawrogi nifer y gwladolion o’r UE.

Roedd angen i ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU fod wedi cwblhau eu cais am statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog erbyn diwedd Mehefin 2021. Ond mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod miloedd lawer o bobl heb wneud hynny eto, gan gynnwys rhai ar fudd-daliadau a grwpiau agored i niwed fel pobl ifanc sydd wedi eu magu mewn gofal, dioddefwyr caethwasiaeth fodern, ac unigolion Roma. Mae disgwyl i’r cynllun aros ar agor am flynyddoedd lawer er mwyn cael ceisiadau hwyr a cheisiadau am statws preswylydd sefydlog gan y rhai a gafodd statws preswylydd cyn-sefydlog. Dylai parhau i ddiweddaru’r wybodaeth am gofrestrwyr ar y cynllun alluogi Llywodraeth Cymru i gynllunio polisïau sy’n bodloni anghenion dinasyddion yr UE yn fwy effeithiol.