Diolch i ymdrechion tîm YDG Cymru o fewn Llywodraeth Cymru a thîm caffael data ymroddedig SAIL a’r ONS (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol), mae data Incwm Talu Wrth Ennill (PAYE) CThEF (Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi) bellach ar gael drwy Fanc Data SAIL.

Gall ymchwilwyr SAIL cymeradwy nawr wneud cais am fynediad at 10 mlynedd o ddata incwm cyflogedig blynyddol ar gyfer y rhai sy’n byw yng Nghymru a gwblhaodd y Cyfrifiad yn 2021, gan ddarparu posibiliadau newydd ar gyfer dadansoddi arloesol.

Mae data incwm PAYE CThEF yn cael eu casglu’n flynyddol gan gyflogwyr ar gyfer pob cyflogai. Mae’r set ddata yn cynnwys gwybodaeth am gyfanswm yr enillion blynyddol o bensiynau cyflogaeth a galwedigaethol ar gyfer pob un o’r deng mlynedd diwethaf.

Gellir cysylltu’r set ddata PAYE â ffynonellau data allweddol eraill fel Cyfrifiad 2021, gan alluogi ymchwil gadarn sy’n berthnasol i bolisi, sy’n arbennig o werthfawr gan nad yw treth ac enillion yn faterion datganoledig yng Nghymru.  

Mae mynediad at y data, sydd wedi’i ddad-adnabod, yn cael ei lywodraethu gan brotocolau llym, gan gynnwys cymeradwyaeth gan y Panel Achredu Ymchwil (RAP), perchnogion y data, a Phanel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth SAIL.

Wrth siarad am y data newydd sydd ar gael, dywedodd yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr Banc Data SAIL: “Mae’r gymuned ymchwil wedi ennill ased newydd pwerus. Mae dyfodiad data Incwm PAYE CThEF yn gam sylweddol ymlaen i’r gymuned ymchwil. Mae ei ddefnyddioldeb yn ddigymar a bydd yn ased sy’n newid y gêm i ymchwilwyr sy’n chwilio am fewnwelediadau economaidd a chyflogaeth dyfnach a mwy ystyrlon.

“Mae ein tîm wedi gweithio’n agos gyda CThEF i sicrhau y gellir darparu data i lywio ymchwil wrth gynnal y safonau uchaf o ran mynediad diogel at ddata mewn amgylchedd ymchwil diogel.”

Dywedodd Mark Brewin, Dirprwy Gyfarwyddwr Rhannu a Chaffael Data: “Mae CThEF yn cymryd preifatrwydd gwybodaeth trethdalwyr o ddifrif iawn ac rydym wedi gweithio’n agos gydag YDG i ddarparu set ddata sy’n galluogi ymchwil werthfawr wrth ddiogelu gwybodaeth cwsmeriaid.

“Rydym yn cefnogi’n llwyr amcan strategol y Llywodraeth i ddefnyddio data gweinyddol a gedwir gan adrannau yn ddiogel o fewn ymchwil a llunio polisïau ehangach. Bydd y data hyn sydd ar gael yn yr amgylchedd ymchwil diogel a ddarperir gan Fanc Data SAIL yn helpu i gefnogi penderfyniadau llunio polisïau yn y dyfodol, sy’n seiliedig ar ddata.”

Dywedodd Cyfarwyddwr YDG UK, Dr Emma Gordon: “Rydym wrth ein bodd bod data Incwm PAYE CThEF bellach ar gael trwy fynediad ymchwil diogel o fewn SAIL. Bydd ei ddyfnder a’i fanylder yn rhoi mewnwelediadau digynsail i ymchwilwyr achrededig.

“Mae’r garreg filltir hon yn cryfhau perthynas barhaus YDG UK, a’n partneriaid, â CThEF, y mae eu cefnogaeth i raglen waith YDG UK wedi bod yn allweddol wrth ddarparu mewnwelediadau sy’n seiliedig ar ddata sy’n llunio polisi ac yn fuddiol i gymdeithas.”

Am ragor o wybodaeth am ddata Incwm PAYE CThEF ac i ddarganfod sut i wneud cais i gael mynediad at y data fel ymchwilydd diogel ym Manc Data SAIL, ewch i – https://saildatabank.com/data/apply-to-work-with-the-data/.