Rydym wrth ein bodd yn rhannu’r cyfan o Raglen Gynhadledd YDG UK 2025. Mae hon yn manylu ar yr amserlen lawn o sesiynau diddorol a gynlluniwyd dros gyfnod y gynhadledd.
Darganfyddwch yr ymchwil feiddgar a disglair sy’n digwydd ledled y DU, gyda’r cyfle i gael cipolwg ar sut mae data gweinyddol yn trawsnewid bywydau ar draws cymdeithas.
Bydd ein rhaglen yn eich tywys drwy’r digwyddiad a gynhelir o 16 i 18 Medi 2025 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Bydd y gynhadledd yn cynnwys pump prif anerchiad nodedig anerchiad gweinidogol, 257 o gyflwyniadaullafar, a 23 o gyflwyniadau poster.
Bydd cyfle i chi rannu syniadau yn un o’n 23 gweithdy cyn y gynhadledd ddydd Mawrth 16 Medi.
Ymunwch â ni i rwydweithio ac am luniaeth am ddim yn y derbyniad gyda’r nos, a gynhelir o 18:00 ddydd Mercher 17 Medi. Mae’n addo bod yn noson o ddathlu gyda chroeso cynnes Cymreig! Dyma’r cyfle perffaith i ymlacio, cysylltu, a chodi llwncdestun i ddata er lles y cyhoedd.
Mae rhaglen Cynhadledd YDG DU eleni yn dwyn ynghyd ystod eang o gyflwyniadau ar bynciau yn cyd-fynd â themâu’r gynhadledd, gan dynnu sylw at sut mae data’n cael ei ddefnyddio mewn gwahanol feysydd o gymdeithas er lles y cyhoedd.
Mae cofrestru cynnar yn cau ddydd Gwener, 30 Mai 2025 – peidiwch â cholli eich cyfle i fod yn rhan o Gynhadledd YDG DU 2025 yng Nghaerdydd.
Ymunwch â ni hefyd ar 15 & 16 Medi a byddwch yn gystadleuol yn ein her fywiog Datathon – Gwrthdrawiad Data: Lle mae cymdeithasol yn cwrdd ag iechyd, lle mae creadigrwydd a data yn cael eu harchwilio.
Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Datathon, peidiwch â cholli’r cyfle – mae lleoedd yn gyfyngedig ac yn llenwi’n gyflym! P’un a ydych chi’n wyddonydd data, yn lluniwr polisi, neu’n chwilfrydig am arloesi data traws-sector, dyma’ch cyfle i ymuno â her ddeinamig, ymarferol a chysylltu â chyfoedion o’r un anian.
