Mae Stephanie Howarth, Cyd-gyfarwyddwr YDG Cymru a Phrif Ystadegydd Cymru, wedi trafod ei rôl a sut mae ei thîm yn gweithio i gynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd data er lles y cyhoedd.
Wedi’i gyhoeddi yng Nghylchgrawn Trawsnewid y Llywodraeth, mae Stephanie yn disgrifio sut mae ei thîm yn gweithio ochr yn ochr â buddsoddiad ADR UK i harneisio data gweinyddol yn fwy “effeithlon, effeithiol a diogel” i wella’r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer polisi Cymru.
Un o’r prosiectau a amlygwyd gan Gyd-gyfarwyddwr YDG Cymru fel enghraifft o ble y gall data presennol helpu i lywio penderfyniadau ynghylch polisïau o fewn y llywodraeth yw rhaglen blynyddoedd cynnar arweiniol Llywodraeth Cymru, Dechrau’n Deg. Mae rhaglen Dechrau’n Deg yn ceisio amddiffyn cyfleoedd bywyd plant ifanc drwy liniaru effaith tlodi.
Cysylltodd ymchwilwyr YDG Cymru yn Llywodraeth Cymru ddata gofal plant o’r rhaglen Dechrau’n Deg â data addysg, gan ganfod bod y rhai â phresenoldeb uwch yn bodloni eu canlyniadau disgwyliedig ym mhob maes dysgu. “Roedd yr ailddefnydd mwy soffistigedig o ddata gweinyddol, a dwyn ymchwil ynghyd, wedi helpu i ddarparu mewnwelediad ychwanegol a llywio’r penderfyniad ar sut i ehangu’r broses o gyflwyno’r rhaglen.
Darllenwch yr erthygl lawn yma
