Mae’r Cipolwg Data hwn yn edrych ar godio clinigol COVID Hir a gofnodwyd mewn gofal sylfaenol ac eilaidd i gynorthwyo dealltwriaeth o ansawdd codio, yr amrywiad o ran defnydd mewn systemau meddalwedd gofal sylfaenol a chyflawnrwydd a defnyddioldeb data. Mae’n darparu nodweddiad cynhwysfawr o gleifion sydd wedi cael diagnosis clinigol o COVID Hir, gyda’r nod o feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cyflwr cymharol newydd hwn.

Wedi’i gyflawni gan dîm ymchwil Heriau Cymdeithasol Mawr YDG Cymru fel rhan o raglen waith YDG Cymru, mae’n cyflwyno cipolwg o’r ymchwil a wnaed a throsolwg cyfredol o argaeledd a chasglu data.