Mae ADR Cymru wedi cyhoeddi Cipolwg Data newydd heddiw sy’n edrych ar y gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad addysgol a phresenoldeb rhwng disgyblion o Gymru a disgyblion a aned yn yr Undeb Ewropeaidd.

Cynhaliwyd y Cipolwg Data gan aelodau o Brosiect Cyswllt Data Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE (EUSS) y mae eu canfyddiadau wedi’u categoreiddio yn ôl aelodaeth o wledydd yr 14UE a’r 8UE. Mae gwledydd yr 14UE yn cynnwys Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Portiwgal, Sbaen a Sweden. Mae gwledydd yr 8UE yn cynnwys y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithuania, Gwlad Pwyl, Slofacia, a Slofenia. Dangosir rhai canlyniadau hefyd ar gyfer disgyblion a aned yn y 27UE.

Canfu’r tîm ymchwil fod gan ddisgyblion a aned yng Nghymru bresenoldeb ysgol gynradd ar gyfartaledd uwch o gymharu â disgyblion a aned yn yr Undeb Ewropeaidd (UE). Fodd bynnag, mae gan ddisgyblion a aned yn yr 14UE gyfradd presenoldeb ychydig yn uwch mewn ysgolion cynradd na disgyblion a aned yng Nghymru. Amcangyfrifodd y tîm ymchwil nad yw cyrhaeddiad ar bob lefel ar gyfer disgyblion yr 8UE a aned yn yr UE sy’n byw yng Nghymru yn ymddangos mor uchel ag ar gyfer disgyblion yr 14UE.

Wrth siarad am eu canfyddiadau, dywedodd y tîm ymchwil: “Mae’n bwysig cael gwybodaeth gywir am y canlyniadau addysgol ar gyfer plant a aned yn yr UE sy’n byw yng Nghymru. Mae hyn yn dylanwadu ar y penderfyniadau polisi a’r gwasanaethau y gall Llywodraeth Cymru eu darparu i fynd i’r afael ag anghenion y boblogaeth hon. Mae hefyd yn galluogi ymchwilwyr a llunwyr polisi i ddeall yn well brofiadau plant a aned yn yr UE sy’n byw yng Nghymru.”

Mae’r prosiect EUSS yn fenter a ddeilliodd o’r angen i wella’r sylfaen dystiolaeth ar ddinasyddion yr UE yng Nghymru sy’n rhan o Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE. Ei nod yw cysylltu data dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ddienw â data arall a gedwir eisoes o fewn Banc Data SAIL, gan alluogi ymchwilwyr a llunwyr polisi i ddeall yn well brofiadau dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru, ac felly i ddatblygu polisïau a gwasanaethau mwy gwybodus sy’n mynd i’r afael ag anghenion y boblogaeth hon a allai fod yn agored i niwed.

I ddarllen y Mewnwelediad Data llawn