Mae’r Cip hwn ar Ddata yn archwilio’r gwahaniaethau rhwng nifer y mudwyr o’r Undeb Ewropeaidd (UE) sy’n byw yng Nghymru, a gwledydd eraill y DU, gan ddefnyddio gwahanol ffynonellau data. Mae’n canolbwyntio’n arbennig ar y ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS), sydd wedi bod yn ofyniad i wladolion yr UE sy’n byw yn y DU ers penderfyniad y DU i adael yr UE. Yn ogystal ag ystyried nifer y mudwyr o’r UE o’r gwahanol ffynonellau data, rydym hefyd yn cymharu gwybodaeth a gwledydd gwreiddiol mudwyr o’r UE i’r DU.