Yn y Cip ar Ddata hwn, mae tîm ymchwil Tai a Digartrefedd YDG Cymru yn archwilio profiadau o ‘anfantais ddifrifol’ ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys digartrefedd, camddefnyddio alcohol a chyffuriau, ac afiechyd meddwl. Gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig, fe wnaeth y tîm greu cohort o bobl ifanc ar lefel y boblogaeth. Yna fe wnaethant edrych ar gofnodion gofal iechyd a chofnodion eraill aelodau’r garfan o’u pen-blwydd yn 16 oed am gyfnod hyd at naw mlynedd. Nododd y dadansoddiad pryd y cofnodwyd gyntaf bod pobl ifanc yn profi pob un o’r pedair anfantais ddifrifol o ddiddordeb. Mae’r canfyddiadau’n ein helpu i ddeall pa mor aml y mae anfanteision difrifol yn digwydd, sut mae pobl ifanc weithiau’n profi sawl math gwahanol o anfantais, a’u hamseriad fel rhan o lwybrau i fod yn oedolion.
