Ffurfiwyd cydweithrediad rhwng ymchwilwyr Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru ym Mhrifysgol Abertawe a Gofal Iechyd Gwledig Cymru (RHCW) i gynnal astudiaeth beilot ar anghydraddoldebau o ran hygyrchedd gofal iechyd sylfaenol gwledig. Roedd y cwestiynau ymchwil yn ymwneud â phellteroedd a deithiwyd i feddygfeydd Meddygaeth Deulu mewn ardaloedd gwledig. Yn benodol, y cwestiynau a ofynnwyd oedd: (1) a yw unigolion yn defnyddio eu meddygfeydd teulu agosaf mewn ardaloedd gwledig, (2) pa mor bell y mae pobl yn teithio i fynychu eu meddygfeydd teulu mewn ardaloedd gwledig, a (3) sut mae hyn yn cymharu â’r pellter a deithir gan gleifion i fynychu eu meddygfeydd teulu mewn ardaloedd mwy dinesig?
