Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cynnar a chynlluniau ar gyfer prosiect MAGENTA (IECHYD MAMAU A BEICHIOGRWYDD a GWRES DYRCHAFEDIG – https://magentaresearch.org/) prosiect ymchwil gwerth £2.2 miliwn a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac mewn partneriaeth â’r Kids’ Environment & Health Cohort yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Nod cyffredinol y prosiect hwn yw darparu tystiolaeth ynghylch a yw amlygiad i dymheredd uwch yn ystod beichiogrwydd yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd niweidiol i’r fam a’r baban.
