Prif nod yr astudiaeth hon oedd asesu dichonoldeb cysylltu data gwasanaethau canser, gan gynnwys cofnodion sgrinio a diagnosis, â data gweinyddol ychwanegol o fewn Banc Data SAIL, gan ganolbwyntio’n benodol ar Gyfrifiad 2021. Yr amcanion allweddol oedd darparu trosolwg o nifer yr unigolion oedd ar gael i’w hastudio trwy gysylltu data o ffynonellau lluosog ac asesu’r cyfnodau amser a gwmpesir gan ddata yn ymwneud â sgrinio a diagnosis canser, gwybodaeth ddemograffig ac iechyd.