Yn y Cip ar Ddata hwn, mae Dr Ian Thomas o’r tîm ymchwil Tai a Digartrefedd yn ADR Cymru yn cynnal ‘archwiliad dwfn’ i ddigartrefedd gan ddefnyddio’r Set Data Camddefnyddio Sylweddau (SMDS). Mae’n archwilio ffyrdd posibl y gellid defnyddio’r SMDS i gynhyrchu tystiolaeth sy’n gysylltiedig â phrofiad digartrefedd gan ei fod yn gorgyffwrdd â chamddefnyddio sylweddau.