Bydd canfyddiadau o Gip ar Ddata diweddaraf YDG Cymru yn cael eu defnyddio i helpu i ddatblygu Fframwaith Integreiddio Mudwyr Llywodraeth Cymru.
Wedi’i gynnal gan dîm Cyfiawnder Cymdeithasol YDG Cymru, mae’r gwaith wedi edrych ar gofrestrfeydd meddygon teulu mudwyr yng Nghymru.
Cyhoeddwyd Fframwaith Integreiddio Mudwyr Cymru ym mis Rhagfyr 2023 ac mae’n chwarae rhan allweddol yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod yn Genedl Noddfa, sy’n anelu at atal yr effeithiau mwyaf niweidiol a brofir gan geiswyr noddfa, megis digartrefedd, amddifadedd, camfanteisio, diweithdra ac afiechyd meddwl. Mae’r fframwaith yn amlygu dulliau a argymhellir i gefnogi integreiddio ac yn anelu at fesur integreiddio mudwyr yng Nghymru.
Mae’r fframwaith yn cwmpasu saith maes bywyd: gwaith, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, cysylltiadau cymdeithasol, addysg a sgiliau, diogelwch a sefydlogrwydd, a hawliau a chyfrifoldebau. Mae pob parth yn cynnwys dangosyddion a argymhellir y gellir eu defnyddio i fesur integreiddio.
Gweithredwyd y Fframwaith ledled Cymru yn 2024. Y cam nesaf yn ei ddatblygiad yw ymarfer mapio a chasglu data cynhwysfawr i sicrhau bod cymaint o ddata â phosibl ar gael i gynhyrchu set ddata sylfaenol ar gyfer y dangosyddion.
Un o’r dangosyddion hyn yw canran yr unigolion sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn ôl statws mudol, y mae dadansoddiad YDG Cymru yn mynd i’r afael ag ef.
Er bod yr adroddoad yn nodi rhai cyfyngiadau technegol, mae canfyddiadau’r ymchwil yn awgrymu, yn ystod y cyfnod astudio (rhwng 2014 a 2023), fod 4.5-6.4% o unigolion a oedd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru wedi’u geni y tu allan i’r DU. Yn y rhan fwyaf o achosion ar gyfer pobl a aned y tu allan i’r DU, po hiraf y mae unigolyn wedi bod yn gofrestredig gyda meddyg teulu yng Nghymru, yr uchaf yw cyfradd gweithgarwch meddygon teulu.
Dywedodd Jane Lyons, prif awdur yr astudiaeth a swyddog ymchwil YDG Cymru, “Mae deall cofrestru a gweithgaredd meddygon teulu ymhlith mudwyr yn bwysig, gan fod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol amserol o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo iechyd a lles unigolion a chymunedau. Gall mynediad at y gwasanaethau hyn, yn enwedig pan fyddant wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion amrywiol mewnfudwyr, gefnogi lles a chynhwysiant.”
