Mae’r trosglwyddiad o addysg orfodol i waith yn dod yn gynyddol gymhleth. O ganlyniad i waith blaenorol ochr yn ochr â gwasanaeth cyfarwyddyd gyrfaoedd Gyrfa Cymru Llywodraeth Cymru, mae dealltwriaeth fanwl o ddarpariaeth cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd mewn ysgolion. Fodd bynnag, ychydig a wyddys am ymgysylltiad disgyblion mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.  Bydd y prosiect hwn yn erych ar lenwi’r bwlch tystiolaeth hwnnw trwy ofyn cwestiynau fel:

  • Pwy sy’n derbyn cyfawyddyd gyrfaoedd yn ystod Cam Allweddol 5?
  • Beth yw natur y ddarpariaeth hon a sut mae’n amrywio rhwng y rheini mewn addysg bellach, y rheini mewn lleoliadau chweched dosbarth a’r rheini sy’n cymryd cymwysterau academaidd yn hytrach na galwedigaethol?