Mae’r astudiaeth ddiweddaraf gan y tîm BOLD (Canlyniadau Gwell trwy Ddata Cysylltiedig) yng Nghymru yn datgelu bod pobl sy’n cael triniaeth camddefnyddio sylweddau ac sy’n profi digartrefedd yn wynebu anghydraddoldebau iechyd sylweddol. Mae ganddynt gyfraddau uwch o dderbyniadau i adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty, arhosiadau hwy yn yr ysbyty, a mwy o ddiagnosis o anhwylderau meddyliol ac ymddygiadol. Mae’r canfyddiadau hyn yn amlygu effaith ddifrifol digartrefedd sy’n cyd-ddigwydd â chamddefnyddio sylweddau ar ganlyniadau iechyd.

Mae’r adroddiad hwn yn gyhoeddiad ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, YDG Cymru, Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen BOLD. Mae BOLD yn rhaglen drawslywodraethol a ariennir gan Drysorlys EF (2021-2025) a gynlluniwyd i ddangos sut y gellir cefnogi pobl ag anghenion cymhleth yn well trwy gysylltu a gwella data’r llywodraeth a gedwir amdanynt mewn ffordd ddiogel a sicr. Mae’n canolbwyntio’n gryf ar ymyrraeth gynnar ac atal camddefnydd cynyddol o sylweddau.

Gan ddefnyddio data o Fanc Data SAIL, dadansoddodd yr astudiaeth dros 32,000 o drigolion Cymru mewn triniaeth camddefnyddio sylweddau rhwng 2014 a 2019. Roedd y setiau data’n cynnwys derbyniadau i’r ysbyty, derbyniadau i adrannau achosion brys, a thriniaeth arbenigol ar gyfer camddefnyddio sylweddau.

Gall deall sut y gall pobl â digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd gael mynediad at wasanaethau iechyd helpu darparwyr gofal iechyd i gynllunio a darparu cymorth yn well. Nod ymchwil y tîm BOLD yw llywio polisïau ac ymyriadau sy’n mynd i’r afael â’r heriau cymhleth hyn. Mae canlyniadau’r astudiaeth hon yn tanlinellu’r angen am gymorth wedi’i dargedu ar gyfer unigolion sy’n wynebu anfanteision lluosog.

Darllenwch yr adroddiad BOLD llawn
Darllenwch yr adroddiad technegol cysylltiedig ar wefan Llywodraeth Cymru