Flwyddyn i mewn i’r rhaglen frechu torfol, roedd gan bobl a brofodd ddigartrefedd yng Nghymru gyfraddau o’r brechlyn Covid-19 a oedd bron i 20 pwynt% yn llai na phobl â nodweddion tebyg.

Canfu’r astudiaeth, a arweiniwyd gan Dr. Ian Thomas, hefyd fod y gyfradd y darparwyd y brechlyn Covid-19 ynddi yn arafach i bobl â phrofiadau diweddar o ddigartrefedd, o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol.

Fel rhan o’r astudiaeth hon, dadansoddodd ymchwilwyr o YDG Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ddata gweinyddol cysylltiedig a oedd ar gael gan Fanc Data SAIL. Dilynwyd carfan o bobl a brofodd ddigartrefedd ychydig cyn dechrau’r rhaglen frechu torfol yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn.

Er bod pobl sy’n profi digartrefedd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer brechlynnau Covid-19 yng Nghymru (a’r DU), ni chynhaliwyd unrhyw waith monitro systematig o’r nifer sy’n derbyn y brechlyn ymhlith y grŵp hwn. Cyhoeddwyd yr astudiaeth yng nghyfnodolyn y Cyngor Meddygol Cyffredinol Public Health.

“Dangosodd ein hymchwil blaenorol fod Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a phartneriaid trydydd sector, wedi dod at ei gilydd yn eithriadol o effeithiol i atal lledaeniad Covid-19 ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd. Fodd bynnag, mae’r ail astudiaeth hon yn dangos bod ymdrechion i frechu’r boblogaeth hon yn llawer llai effeithiol. Mae’n rhaid dysgu gwersi pwysig ynglŷn â darparu arweiniad cliriach, adnoddau, a monitro gweithrediad yn weithredol.” (Yr Athro Peter Mackie)

Darllenwch erthygl y cyfnodolyna gyhoeddwyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol Public Health.

Gellir darllen ymchwil blaenorol y tîm ar heintiau Covid-19 ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru yn yr International Journal of Population Data Science.