Mae YDG Cymru wrth ei fodd yn cyhoeddi bod Faye Gracey, Pennaeth Caffael a Chysylltu Data ar gyfer Ymchwil (Llywodraeth Cymru) ac arweinydd YDG Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, wedi cael ei dewis i ymuno â Phanel Cyngor Gwerthuso a Threialon (ETAP) Llywodraeth y DU.
Mae ETAP yn banel o arbenigwyr traws-lywodraethol sy’n darparu cyngor annibynnol ar ddylunio gwerthusiadau, dulliau dadansoddol, a gweithredu tystiolaeth gadarn ar draws rhaglenni’r llywodraeth. Gwnaeth Faye gais i ymuno â’r panel i helpu i sicrhau bod gwerthusiadau’r llywodraeth yn ystyried ymarferoldeb a gwerth defnyddio data gweinyddol yn rheolaidd, ac i hyrwyddo ymgorffori data gweinyddol mewn tystiolaeth a gweithgaredd gwerthuso ar draws Llywodraeth y DU.
Yn ei rôl yn Llywodraeth Cymru, mae Faye yn arwain trafodaethau caffael data ar lefel y DU ac mae’n gyfrifol am gyfeiriad strategol cysylltu data ar ran y sefydliad. Mae hi’n aelod allweddol o’r uwch dîm arweinyddiaeth ar gyfer ystadegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru ac mae hi’n cael ei chydnabod am ei dylanwad strategol ar ddatblygu a defnyddio data gweinyddol ar gyfer ymchwil.
Gyda bron i 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau dadansoddol ar draws ystod eang o feysydd polisi, mae Faye wedi dal swyddi mewn asiantaeth ymchwil breifat, arolygiaeth, elusen, a’r cyfryngau. Y tu hwnt i’r llywodraeth, mae hi’n cyfrannu at y gymuned ymchwil a gwerthuso ehangach trwy ei rôl fel Aelod Cyngor gweithredol o Gymdeithas Gwerthuso’r DU. Bu’n Ymddiriedolwr i’r Gymdeithas Ymchwil Gymdeithasol (SRA) o 2014 i 2021.
Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Faye: “Rwyf wrth fy modd yn ymuno ag ETAP a chyfrannu at gryfhau’r defnydd o ddata gweinyddol o ansawdd uchel ar draws gwerthusiadau Llywodraeth y DU. Mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod dyluniad y gwerthusiad yn ystyried potensial data gweinyddol yn llawn o’r cychwyn cyntaf, ac rwy’n edrych ymlaen at ddod â fy mhrofiad o YDG Cymru a Llywodraeth Cymru i waith y panel.”
Mae penodiad Faye yn tanlinellu ymrwymiad YDG Cymru i hyrwyddo defnydd diogel, moesegol ac effeithiol o ddata gweinyddol cysylltiedig mewn ymchwil a gwerthuso. Mae hefyd yn tynnu sylw at y rôl arweinyddiaeth y mae timau dadansoddol Llywodraeth Cymru yn parhau i’w chwarae wrth lunio polisi sy’n seiliedig ar ddata ledled y DU.
