
Mae YDG Cymru yn falch iawn o groesawu pum wyneb newydd i’r tîm yn rhan o Interniaeth Haf Gwyddor Data Poblogaeth Prifysgol Abertawe.
Mae Lauren Hill, Ranjith Kumar, Nancy Meligy, Constantinos Constantinides a Joy Anthony wedi ymuno â thimau Tai a Digartrefedd, Newid Hinsawdd, Iechyd Meddwl a Heriau Cymdeithasol Mawr YDG Cymru yn rhan o raglen interniaeth 12 wythnos.
Mae Interniaeth Haf Gwyddor Data Poblogaeth yn canolbwyntio ar ddarparu profiad prosiect byw i fyfyrwyr sydd â diddordeb ym mhob agwedd ar ymchwil gwyddor data.
Mae interniaid YDG Cymru yn rhan o grŵp o 16 o ymgeiswyr llwyddiannus sy’n gweithio ar draws buddsoddiadau ymchwil yn Adeilad Gwyddor Data Prifysgol Abertawe.
Bellach yn ei phumed flwyddyn, mae Interniaeth Haf Gwyddor Data Poblogaeth wedi mynd o nerth i nerth gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus yn curo’r gystadleuaeth o blith dros 750 o ymgeiswyr am leoedd eleni.
I gael rhagor o wybodaeth am Interniaeth Haf Gwyddor Data Poblogaeth ac i ddilyn hynt holl interniaid 2024 cliciwch yma.
