Mae un o bartneriaid Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru), sef Banc Data SAIL, wedi cael cydnabyddiaeth am eu canllawiau ar-lein, eu hadnoddau gwybodaeth, eu harbenigedd ar ymgysylltu â’r cyhoedd, a’u cyfraniad at yr ymateb i’r pandemig Covid-19.
Mae’r pandemig Covid-19 wedi dwysáu ymdrechion i leddfu’r rhwystrau rhag dod â data iechyd rhyngwladol, aml-sefydliadol at ei gilydd ar gyfer ymchwil gofal iechyd. Mae’r rhwystrau hyn yn cynnwys amrywiadau mewn fframweithiau llywodraethu a rheoleiddio, safonau cofnodi data ac ansawdd data, a heriau rhyngweithredu rhwng systemau. Mae Covid-19 wedi cyflymu symudiad o fewn y gymuned ymchwil a gwyddonol i fynd y tu hwnt i’r dulliau traddodiadol, ynysig o gynnal gwaith ymchwil ar ddata iechyd.
Tua diwedd 2020, bu’r Hyb Data Iechyd yn Ffrainc, sefydliad a grëwyd yn 2019 i ddod â data, offer a phlatfformau ynghyd er mwyn gwella iechyd dinasyddion, yn cynnal astudiaeth feincnodi ar sefydliadau tebyg. Nod yr astudiaeth yw rhannu gwybodaeth ac arferion gorau, gwella safonau a meithrin cydweithio yn y dyfodol er mwyn gwella iechyd cyhoeddus ledled Ewrop. Mae’r gwaith hwn yn rhan o fenter Gofod Data Iechyd Ewropeaidd y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n hyrwyddo cyfnewid Cofnodion Iechyd Electronig a rhoi mynediad iddynt at ddibenion ymchwil diogel.
Roedd yr ymarfer meincnodi yn cynnwys 17 o sefydliadau o 11 o wledydd gwahanol. Roedd gan Fanc Data SAIL le amlwg ochr yn ochr â 10 o’r sefydliadau eraill sy’n gyfrifol am ‘gynnal data iechyd a chaniatáu mynediad atynt’. Gwnaed cymariaethau ar draws gweithgareddau gweithredol, ariannol ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
 phwyslais ar y thema o gyfathrebu, rhoddwyd sylw arbennig i Fanc Data SAIL am eu canllawiau ar-lein ac adnoddau gwybodaeth sy’n cynnwys catalog metadata, polisi cyhoeddiadau, sylwadau ar brofiad defnyddwyr a gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd sy’n destun y data a gedwir yn amgylchedd diogel SAIL.
Wrth feincnodi yn ôl y meini prawf ar gynnwys y cyhoedd, rhoddwyd sylw hefyd i arbenigedd a phersonél ymroddedig Banc Data SAIL wrth ymgysylltu â’r cyhoedd a’u hymdrechion i sicrhau tryloywder cyhoeddus, cynnwys lleisiau’r cyhoedd yn nhrefniadau llywodraethu mynediad at ddata SAIL, a sefydlu ‘panel defnyddwyr’ i gynorthwyo datblygu syniadau ymchwil.
Yn olaf, cyfeiriwyd at Fanc Data SAIL am eu gwaith o reoli data Covid-19, gan sicrhau eu bod ar gael yn gyflym ar gyfer ymchwil gymeradwy, ac am eu defnydd o gatalog metadata effeithiol. Cafodd hyn gydnabyddiaeth fel un o’r ‘trobwyntiau’ yn ystod yr ymateb i Covid-19,
Yn dilyn y dadansoddiad meincnodi hwn, gobeithir y gellir defnyddio arferion gorau yn Ewrop ac yn rhyngwladol i greu ecosystem data iechyd sydd o fudd i ddinasyddion ledled y byd.
Dywedodd yr Athro Ronan Lyons, Athro Iechyd Cyhoeddus a Chyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL: ”Dros y 15 mlynedd diwethaf, trwy arloesi a gwaith caled, mae’r tîm y tu ôl i Fanc Data SAIL wedi creu un o blatfformau mwyaf blaenllaw’r byd ar gyfer storio data iechyd a rhoi mynediad atynt, felly rydym yn falch o gael ein meincnodi yn erbyn enghreifftiau eraill o sefydliadau sy’n ymwneud â data iechyd ledled Ewrop. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos â’n cymheiriaid rhyngwladol wrth i ni ddod allan o’r pandemig, a gwella ein parodrwydd ar y cyd ar gyfer argyfyngau iechyd yn y dyfodol.”
Mae adroddiad llawn y dadansoddiad meincnodi ar gael ar wefan yr Hyb Data Iechyd.
Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Gwyddor Data Poblogaeth Prifysgol Abertawe.
