Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus a gydnabuwyd gan y Frenhines yn dweud bod ei anrhydedd yn adlewyrchiad o’r parch tuag ar waith SAIL Databank Prifysgol Abertawe.

Cyflwynwyd anrhydedd OBE i’r Athro Ronan Lyons am ei wasanaethau i Ymchwil, Arloesedd ac Iechyd Cyhoeddus. Mae’r Athro Lyons yn Athro Clinigol Iechyd Cyhoeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae’n un o ddau Gyfarwyddwyr y grŵp Gwyddor Data Poblogaeth. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y defnydd eilaidd o wybodaeth iechyd i gefnogi targedu a gwerthuso ymyriadau gwasanaeth iechyd ac ymyriadau nad ydynt yn rhai iechyd i wella atal, gofal ac adsefydlu.

Fel Cyd-Brif Ymchwilydd a Chyd-gyfarwyddwr Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL Databank)(a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru), meddai: Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael y wobr hon. Mae’n sicr yn adlewyrchu’r gwerthfawrogiad eang o gyfraniad yr ymchwil a gynhaliwyd gennym i gymdeithas trwy ddefnyddio SAIL Databank. Mae’n gydnabyddiaeth wych o’n hymagwedd wych tîm gwyddoniaeth a chydweithio cenedlaethol a rhyngwladol.”

Mae’r Athro Lyons yn gwasanaethu fel meddyg ac epidemiolegydd iechyd cyhoeddus, gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad mewn meddygaeth glinigol, iechyd cyhoeddus a gwybodeg iechyd yn Iwerddon a’r DU. Cafodd ei ddiddordeb parhaus mewn atal, trin ac adsefydlu anafiadau ei ffurfio wrth weithio mewn adrannau achosion brys.

Ers dechrau’r pandemig, mae’r Athro Lyons a’r tîm wedi defnyddio mewnwelediadau o’r data iechyd cyfoethog yn SAIL Databank i gefnogi llywodraethau. Fe wnaethant ddarparu gwybodaeth i Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, gan fwydo i mewn i SAGE (y Grwp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau) y DU yn ddiweddarach. Mae eu gwaith hefyd wedi cefnogi’r GIG, a chymunedau agored i niwed, i fynd i’r afael a phandemig Covid-19, er mwyn gallu diogelu ac achub bywydau nawr yn y DU ac yn fyd-eang.

Ochr yn ochr ag arbenigwyr iechyd cyhoeddus eraill, siaradodd yr Athro Lyons a WalesOnline yn ddiweddar am effaith bosibl yr amrywiolyn Omicron presennol ar Gymru yn seiliedig ar ddata o brif amrywiolion blaenorol a bygythiadau feirysol eraill i iechyd cyhoeddus:

“Erbyn diwedd mis Chwefror, mae’n debyg y bydd cyfraddau’r haint yn sylweddol is na nawr. Mae llawer o ansicrwydd ynghylch pa mor gyflym y bydd yn lleihau’n raddol. Mae’n dibynnu ar ymddygiad pobl.

“Pan fydd un feirws yn disodli un arall, mae’n mynd yn fwy trosglwyddadwy ond mae’n mynd yn ysgafnach ac yn achosi difrod llai difrifol. Bydd yr effaith ar y boblogaeth yn llawer llai. Pan gyrhaeddwn y cam hwnnw, bydd yr ymyriadau sydd eu hangen i ddiogelu’r boblogaeth yn cael eu lleihau hefyd.

“Os edrychwch yn ôl ychydig fisoedd, cawsom sawl mis lle’r oedd yn teimlo fel ein bod yn ôl i’r arfer, bron. Doedd Omicron ddim yn bodoli ac fe wnaeth ein synnu. Rydych yn disgwyl i un ddod, yn enwedig pan mae rhannau helaeth o’r byd heb eu brechu o hyd. Mae cyfran y boblogaeth sydd mewn perygl yn cynyddu.”

Mae’r Athro Lyons yn gyfarwyddwr safle ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon, yn Gyfarwyddwr Ymchwil ac Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Gwella Iechyd Cyhoeddus yn Ymchwil Data Iechyd y DU UK (HDR UK). Mae HDR UK yn fuddsoddiad gwerth dros £50 miliwn gan gyllidwyr ymchwil y DU, wedi’i arwain gan y Cyngor Ymchwil Meddygol.

Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR Cymru), a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, Cyfarwyddwr Cyswllt Porthol Data Dementias Platform UK (DPUK) y Cyngor Ymchwil Meddygol a Chyd-Gyfarwyddwr SeRP (the Secure eResearch Platform). Mae ei bortffolio grantiau presennol yn werth mwy na £45 miliwn.