Bydd y fenter data gweinyddol sy’n trawsnewid mynediad ymchwilwyr at gyfoeth o ddata sector cyhoeddus y DU i helpu i ddatrys materion cymdeithasol ac economaidd yn parhau am bum mlynedd arall.
Bydd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn buddsoddi dros £90 miliwn yn ADR UK gan ei alluogi i sicrhau y gall prosiectau ymchwil a chysylltu data sy’n berthnasol i bolisi ledled y DU barhau.
Arweinydd byd-eang mewn seilwaith data
Mae ADR UK yn arweinydd o ran rhoi mynediad i ymchwilwyr achrededig at ddata wedi’i ddad-adnabod o adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd. Mae hyn yn galluogi penderfyniadau polisi mwy gwybodus sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr ac yn gwella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ar draws ystod o feysydd gan gynnwys addysg, gofal iechyd a throsedd.
Mae’r ymrwymiad parhaus hwn yn sicrhau y gall prosiectau ymchwil a chysylltu data sy’n berthnasol i bolisi ledled y DU barhau heb golli’r sgiliau, seilwaith na momentwm hanfodol a fagwyd yn ystod y tair blynedd gyntaf ers ffurfio ADR UK.
Mae ADR UK yn helpu i gynnal safle’r DU fel arweinydd byd-eang mewn seilwaith data ac mae’n dangos gwerth defnyddio mewnwelediadau o’r cyfoeth o ddata presennol i lywio’r broses o wneud penderfyniadau er lles cymdeithas.
Helpu i fynd i’r afael â phandemig Covid-19
Chwaraeodd ADR UK ran ganolog yn y pandemig drwy ei fuddsoddiad mewn amgylcheddau ymchwil dibynadwy ledled y DU gan gynnwys y Gwasanaeth Ymchwil Diogel) y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Banc Data SAIL. Roedd yr amgylcheddau ymchwil dibynadwy hyn yn caffael data ac yn sicrhau ei fod ar gael ar gyfer ymchwil cymeradwy, diogel a oedd yn hanfodol i’r ymateb i’r pandemig ledled y DU.
Ar lefel leol, mae Rhaglen Lleoedd Data Lleol a ariennir gan ADR UK yn helpu awdurdodau lleol i ddeall lledaeniad ac effaith y pandemig yn eu cymunedau drwy ddefnyddio data Covid-19 wedi’i ddad-adnabod o’r rhaglen Profi ac Olrhain genedlaethol ochr yn ochr â data iechyd a gweinyddol i gefnogi penderfyniadau lleol.
Harneisio data allweddol
Dywedodd yr Athro y Fonesig Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI: “Mae data gweinyddol yn adnodd heb ei archwilio’n ddigonol ond sy’n llawn gwybodaeth. Mae gan y cyfoeth o ddata sydd ar gael o adrannau’r llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus y potensial i greu gwybodaeth a dirnadaeth bwysig, yn ogystal â rhoi darlun cynhwysfawr o gymdeithas y DU a chyfeirio at feysydd lle mae angen newid.
“Mae ADR UK yn chwarae rôl ganolog i wneud y data hwn yn hygyrch i ymchwilwyr mewn ffordd ddiogel. Mae’r buddsoddiad parhaus hwn yn sicrhau bod llunio polisïau a ategir gan dystiolaeth a yrrir gan ddata yn gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cymdeithas a gwella bywydau pobl.
“Mae prosiectau ymchwil a ariennir gan ADR UK eisoes wedi gwneud cyfraniadau sylweddol yn ystod yr ymateb i Covid-19 drwy alluogi awdurdodau lleol i harneisio data allweddol i gefnogi’r broses o wneud eu penderfyniadau a’u helpu i ddeall yn well ledaeniad ac effeithiau’r pandemig yn eu cymunedau.”
Dywedodd y Gweinidog Gwyddoniaeth, Amanda Solloway: “Wrth i ni adeiladu’n ôl yn well o’r pandemig, mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi gwyddonwyr ac ymchwilwyr y DU i ddatgloi cyfoeth data’r sector cyhoeddus a all gynnig dealltwriaeth hanfodol o ran sut mae gwella pob agwedd ar ein cymdeithas, o ofal iechyd i addysg. Dyna pam heddiw rydym yn ymrwymo £90m arall o gyllid y llywodraeth i Administrative Data Research UK, gan alluogi ein goreuon a’n mwyaf disglair i barhau â’u gwaith wrth drawsnewid ein bywydau er gwell.”
Adeiladu’n ôl yn well, yn gryfach, yn decach
Mae ail-fuddsoddi parhaus yn ADR UK hefyd yn sicrhau dyfodol y rhaglen cymrodoriaeth ymchwil sy’n cysylltu ymchwilwyr â llunwyr polisi wrth wraidd y llywodraeth. Un enghraifft o hyn yw cymrodoriaethau Gwyddor Data Rhif 10 sy’n defnyddio setiau data gweinyddol ac arolygu cysylltiedig newydd a phresennol i gynhyrchu dadansoddiadau i lywio polisi ym meysydd blaenoriaeth y llywodraeth ynghylch adfer wedi Covid-19, targed hinsawdd sero net a ffyniant bro rhanbarthau’r DU o dan gynlluniau i adeiladu’n ôl yn well, yn gryfach ac yn decach.
Bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn caniatáu comisiynu mwy o brosiectau ymchwil data blaenllaw gydag adrannau Whitehall, fel partneriaeth Data First rhwng ADR UK a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n cysylltu data o bob rhan o’r llysoedd sifil, teuluol a throseddol, er mwyn galluogi gwell profiadau o’r system gyfiawnder, a gwell canlyniadau ohoni.
Mae ADR UK mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â chryfhau adferiad economaidd y DU o Covid-19. Bydd prosiect Wage and Employment Dynamics a arweinir gan academyddion ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, yn dangos ‘effeithiau creithiol’ y pandemig ar gyflog a dilyniant gyrfa gwahanol ddemograffeg, ac ymhle y dylid targedu cymorth.
Partneriaethau cenedlaethol ledled y DU
Yn ogystal â galluogi parhad partneriaethau cenedlaethol ADR England, ADR Scotland, YDG Cymru ac ADR Gogledd Iwerddon , ac ariannu Gwasanaeth Ymchwil Diogely SYG, mae’r buddsoddiad newydd hwn yn golygu y gall ADR UK hefyd sefydlu canolfan hyfforddi a meithrin gallu i sicrhau piblinell o wyddonwyr data medrus i ddadansoddi setiau data gweinyddol yn y dyfodol.
Meddai’r Athro Alison Park, Cadeirydd Gweithredol Dros Dro ESRC ac Uwch Swyddog Cyfrifol ADR UK: “Mae ADR UK yn fuddsoddiad allweddol o ran seilwaith data ESRC, a chroesawir yn fawr yr ymrwymiad pellach hwn.
“Yng nghysgod pandemig Covid-19, rydym wedi cyrraedd adeg aeddfedu ar gyfer data gweinyddol. Bydd y cwestiynau rydyn ni’n eu gofyn nawr, y data rydyn ni’n ei gasglu, a sut rydyn ni’n ei gysylltu a’i ddadansoddi’n ddiogel, yn hanfodol i’r ffordd y bydd y DU yn llywio ei ffordd dros y blynyddoedd nesaf er mwyn bod yn gryfach ac yn wytnach ar gyfer y dyfodol.
“Mae seilwaith data a sefydlwyd fel rhan o raglen ADR UK eisoes wedi profi ei werth i lywio’r ymateb i Covid-19, ac mae llawer mwy i’w wneud – er enghraifft, cysylltu data iechyd, cymdeithasol ac economaidd er mwyn deall effeithiau anghymesur y pandemig ar gymunedau penodol, a’r gwendidau a’r anghydraddoldebau systemig sy’n sail iddynt. Gyda chyllid o’r newydd, mae ADR UK yn sefyll yn barod i helpu i ddarparu llawer o’r atebion.”
Dywedodd Dr Emma Gordon, Cyfarwyddwr ADR UK: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi sicrhau’r cyllid parhaus hwn, gan roi i bob un o’n partneriaid y sicrwydd sydd ei angen arnynt i barhau â gwaith ymchwil a chysylltu data gweinyddol hanfodol i lywio penderfyniadau polisi, gwella gwasanaethau cyhoeddus, a gwella bywydau pobl ledled y DU.
“Mae’r estyniad cyllid hwn yn dyst i arbenigedd a gwaith caled cydweithwyr ar draws partneriaeth ADR UK. Mae’n dangos bod gennym fodel sicr bellach sy’n gweithio, gan ariannu rhwydwaith o amgylcheddau ymchwil dibynadwy ledled y DU gan gynnwys y Gwasanaeth Ymchwil Diogel yn y SYG, gweithio gyda’r llywodraeth ac ymchwilwyr, a sicrhau buddion diriaethol ar gyfer polisi cyhoeddus a’r gymuned ymchwil ehangach. Rydym wedi comisiynu prosiectau tirnod gydag adrannau Llywodraeth y DU, wrth i’n partneriaid yn y gweinyddiaethau datganoledig barhau i dyfu eu portffolios o ymchwil sy’n berthnasol i bolisi ac agor mynediad at ddata.
“Erbyn hyn, rydym gam pwysig yn agosach at wireddu ein gweledigaeth hirdymor o fod yn ddewis diofyn i gynnal data gweinyddol cysylltiedig o bob rhan o’r DU a llywodraeth ddatganoledig, gan ei wneud yn hygyrch i gronfa ddofn o ymchwilwyr hyfforddedig i gynhyrchu dirnadaeth a ddefnyddir yn rheolaidd i lywio polisi ac ymarfer.”
Mae rhagor o wybodaeth am sut i gael gafael ar ddata ar ein gwefan.
