Mae ADR y DU wedi ymateb i ymchwiliad newydd gan Bwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin: ‘Yr hawl i breifatrwydd: data digidol’. Mae’r ymchwiliad hwn yn archwilio’r ffyrdd y caiff data ei rannu a’i ddefnyddio ar hyn o bryd ar draws y llywodraeth, y sector cyhoeddus a diwydiant, yn ogystal â’r angen i gydbwyso preifatrwydd pobl â’r angen i ddefnyddio data’n effeithiol.
Mae gan rannu data ar draws a rhwng cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill y potensial i alluogi llawer o fuddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Mae hyn yn cynnwys gwella gwasanaethau gofal iechyd a hwyluso mewnwelediadau sy’n datblygu ymchwil ac arloesi. Mae rhannu data hefyd yn caniatáu i ymchwilwyr nodi patrymau a gwella ein dealltwriaeth o bynciau pwysig sydd o fudd i’r cyhoedd, fel meddygaeth.
Fodd bynnag, mae rhannu data hefyd yn codi cwestiynau pwysig ynghylch preifatrwydd a pherchnogaeth data personol. Ymhlith y risgiau a achosir gan rannu data mae rhoi hawliau unigolion i breifatrwydd mewn perygl neu golli ymddiriedaeth y cyhoedd mewn diogelwch data oherwydd llywodraethu data’n wael. Cyfeiriodd ein hymateb at atebion posibl i’r heriau hyn.
Gwnaethom sylwadau ar bum pwnc a awgrymwyd gan y Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae ein meddyliau fel a ganlyn:
- Mae rhannu data o fudd i lunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar draws yr ystod lawn o feysydd polisi gan gynnwys trosedd a chyfiawnder, iechyd a lles, plant a phobl ifanc, a thai a chymunedau.
- Dylid cael ymagwedd fwy cyfannol at ddefnyddio data iechyd ar gyfer ymchwil yn Lloegr. Dylem adeiladu ar arfer da sydd eisoes yn bodoli fel model amgylcheddau ymchwil achrededig Deddf yr Economi Ddigidol sy’n caniatáu i ymchwilwyr gael gafael ar ddata’n ddiogel, heb fod angen rhyddhau data.
- Mae ADR y DU wedi ymrwymo i roi sicrwydd i’r cyhoedd bod eu data’n ddiogel drwy sicrhau bod ein holl amgylcheddau ymchwil dibynadwy yn cadw at y ‘Five Safes’. Rydym hefyd yn ymgorffori ymgysylltu â’r cyhoedd drwy gydol ein gwaith, drwy baneli, pwyllgorau llywio, gweithdai, a thrwy ddilyn ein pum egwyddor ymgysylltu â’r cyhoedd.
- Efallai na fydd gwneud data’n ddienw’n llwyr bob amser yn briodol neu’n bosibl er mwyn i ddata fod yn ddefnyddiol at ddibenion ymchwil. Os ceir mynediad at wybodaeth sydd wedi’i dadnodi drwy amgylchedd ymchwil dibynadwy sydd wedi’i achredu o dan broses addas, ac, felly’n bodloni’r holl safonau diogelwch gofynnol, yna gellir ystyried bod y data dadnodi yn ddienw. Mae hyn yn bosibl drwy gyfuniad o’r camau a gymerwyd i greu’r set ddata wedi’i dadnodi, a’r amgylchedd lle y ceir mynediad at y set ddata.
- Nid yw’r trefniadau llywodraethu presennol yn Lloegr ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch creu setiau data gweinyddol ac iechyd cysylltiedig, i gefnogi ymchwil er lles y cyhoedd, yn addas i’r diben ar hyn o bryd. Hoffai ADR y DU gydweithio â NHS Digital a phartïon cysylltiedig eraill ar ddatblygu fframwaith i hwyluso gwneud penderfyniadau’n well, yn debyg i’r rheiny sydd eisoes ar waith yng Nghymru a’r Alban.
Yn gyffredinol, rydym yn croesawu’r ffaith fod Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin yn ceisio dealltwriaeth o rannu data. Rydym hefyd yn croesawu’r ffocws penodol ar iechyd, gan fod deall penderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd yn un o’n themâu ymchwil allweddol ac yn faes lle gall rhannu data wella bywydau. Rydym yn edrych ymlaen at weld ein hadborth yn cael ei adlewyrchu mewn strategaethau yn y dyfodol.
Darllenwch ymateb llawn ADR y DU
