Mae partneriaeth ADR UK wedi ymateb i ganllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: ‘Cais am safbwyntiau: Canllawiau i dechnolegau anonymeiddio, ffugenwi a gwella preifatrwydd’.
Gwnaethom ymateb i bennod gyntaf y canllawiau, ‘Cyflwyniad i Anonymeiddio’ a oedd yn amlinellu ystod o faterion cyfreithiol, polisi a llywodraethu ynghylch cymhwyso anonymeiddio yng nghyd-destun cyfraith diogelu data.
Gwnaethom sylwadau ar yr agweddau ar y canllawiau a oedd fwyaf perthnasol i ni ar bynciau megis anonymeiddio, dad-adnabod a ffugenwi. Pwysleisiodd ein hymateb ambell bwynt allweddol:
1) Mae anonymeiddio yn fater cymhleth na fydd bob amser yn briodol na phosibl efallai. Dylai’r canllawiau amlygu’r ffactorau y mae angen eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwn, megis gallai’r data fod yn llai defnyddiol ar ôl ei anonymeiddio a bod angen i sefydliadau feddu ar ddigon o sgiliau, adnoddau, technoleg, a phrosesau.
2) Dylid ystyried bod data wedi’i ffugenwi, gyda’r rheolaethau cywir yn eu lle, wedi’i anonymeiddio’n weithredol. Er enghraifft, data a gedwir mewn amgylchedd ymchwil dibynadwy wedi’i achredu gan Ddeddf yr Economi Ddigidol (DEA) gyda rheolaethau dros ddefnydd a defnyddiwr.
3) Mae gwybodaeth wedi’i dad-adnabod yn derm gwell i’w ddefnyddio na dienw, gan ei fod yn cydnabod ei bod yn anodd iawn anonymeiddio gwybodaeth yn wirioneddol gan gadw gwerth ac ystyr i ystadegwyr ac ymchwilwyr. Mae hyn hefyd yn cynyddu tryloywder ynghylch prosesu data gyda’r cyhoedd, a allai wella eu hymddiriedaeth mewn ymchwil data gweinyddol.
4) Sut mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i ganllawiau eraill, fel Deddf yr Economi Ddigidol, yn eu diweddaru ac yn eu haddasu?
Rydym hefyd wedi gofyn am eglurder ar nifer o bwyntiau yn y canllawiau, megis yr hyn mae ‘ar gael yn rhesymol’ yn ei olygu i ail-adnabod unigolion, a sut mae asesu risg adnabod.
Ar y cyfan, rydym yn croesawu bod Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ymwneud â’r agenda hwn gan ei fod o bwys allweddol i waith ADR UK. Gobeithiwn y gall iteriad nesaf y canllawiau hyn fynd i fwy o ddyfnder ar y pwyntiau a nodwyd.
Darllenwch ein hymateb llawn i gael gwybod mwy am feddyliau ADR UK ar ymgynghoriad cyhoeddedig cais Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am safbwyntiau.