Mae partneriaeth Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) y Deyrnas Unedig (DU) wedi ymateb i alwad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am safbwyntiau ar ei chanllawiau drafft ar anonymeiddio, defnyddio ffugenwau, a thechnolegau gwella preifatrwydd.

Mae’r ymgynghoriad, a fydd yn parhau yn agored tan fis Medi 2022, yn gofyn am fewnbwn gan sefydliadau ac unigolion i lywio datblygiad y canllawiau.

Hyd yn hyn, mae pedair pennod ddrafft o’r canllawiau wedi’u rhyddhau, ac mae ein hymateb yn canolbwyntio ar y tair cyntaf. Mae’r penodau hyn yn trafod materion gan gynnwys anonymeiddio mewn cyfraith diogelu data, adnabyddadwyedd data, a sut y gellir defnyddio ffugenwau i ddiogelu data personol.

Roedd ein hymateb yn pwysleisio’r pwyntiau allweddol canlynol:

  • Mae’r canllawiau hyn yn ychwanegiad i’w groesawu yn y maes, ond mae angen iddynt fod yn hygyrch. Dylai ymarferwyr data ar bob lefel o brofiad allu eu defnyddio’n effeithiol i lywio eu gwaith diogelu data.
  • Mae’n rhaid i ni fod yn glir ynghylch y gwahaniaethau rhwng anonymeiddio, defnyddio ffugenwau, a dad-adnabod – a’r hyn y maent yn ei olygu yn ymarferol. Gall dryswch rhwng y cysyniadau hyn arwain at ddiffyg ymddiriedaeth mewn mesurau diogelu data ymhlith y cyhoedd, felly mae angen eu gwahaniaethu’n glir ac yn gyson.
  • Mae angen barn gytbwys wrth benderfynu os yw anonymeiddio 100% yn ddymunol, neu hyd yn oed yn bosibl. Dylai’r canllawiau ystyried dichonoldeb y broses hon mewn cyd-destunau gwahanol, a dylent ganolbwyntio ar gadw gwerth data at ddibenion ymchwil tra’n sicrhau diogelwch data.

Rydym yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at ddatblygu’r canllawiau hyn, a fydd yn cefnogi unigolion a sefydliadau i anonymeiddio data yn effeithiol. Byddwn yn parhau i argymell mesurau cadarn ar gyfer diogelu data sydd hefyd yn diogelu gwerth data ar gyfer ymchwil er budd y cyhoedd, ac edrychwn ymlaen at ystyried penodau pellach o’r canllawiau wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

Darllenwch ein hymateb llawn i ddysgu rhagor am safbwyntiau YDG y DU ar ganllawiau drafft Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth .

Darllenwch ein hymateb i’r fersiwn flaenorol o’r canllawiau hyn.