Mae ymchwil data gweinyddol a hwylusir gan bartneriaid Ymchwil Data Gweinyddol y Deyrnas Unedig (YDG y DU) wedi bod yn hanfodol wrth lywio ymatebion Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i’r pandemig Covid-19 parhaus.
- Mae YDG yr Alban yn gweithio â Llywodraeth yr Alban i lunio ymchwil ymatebol ar effaith y pandemig
- Mae gwaith gan YDG Cymru yn helpu nodi pobl ‘risg uchel’ o fewn poblogaeth Cymru
- Mae YDG Gogledd Iwerddon yn asesu sut mae risgiau iechyd sy’n bodoli eisoes yn dylanwadu ar gyfraddau marwolaethau
- Mae YDG Lloegr yn galluogi cyhoeddi adroddiadau dadansoddi effaith Covid-19 ar gyfer pob awdurdod lleol yn Lloegr
- Mae setiau data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys yr Arolwg Heintiadau Covid-19 a’r Arolwg o Ddealltwriaeth ac Amodau Busnes
Mae’r effeithiau hirdymor economaidd-gymdeithasol ac ar iechyd sy’n deillio o’r pandemig Covid-19 wedi golygu bod angen defnyddio ymchwil data gweinyddol o ansawdd uchel i arwain penderfyniadau’r llywodraethau wrth i’r DU baratoi i lacio’r holl gyfyngiadau sy’n parhau.
Bu partneriaid YDG y DU yn llunio ymchwil hanfodol gan ddefnyddio data gweinyddol y sector cyhoeddus i ddeall yn well effeithiau’r pandemig ar grwpiau gwahanol mewn cymdeithas o ran iechyd, addysg a’r economi, ac i lywio ymatebion Covid-19 Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig.
Darllenwch ymlaen i gael gwybod am rywfaint o’r gwaith pwysig y mae’r bartneriaeth wedi’i wneud.
Mae YDG yr Alban yn parhau i gefnogi ymatebion Covid-19 Llywodraeth yr Alban sydd wedi’u llywio gan ddata, wrth gasglu a darparu arweiniad a chymorth llywodraethu gwybodaeth ar gyfer setiau data nad ydynt yn ymwneud ag iechyd. Gan ddefnyddio’r profiad o adeiladu Seilwaith Cysylltu Data YDG yr Alban, maent wedi gallu rhoi cefnogaeth gyflym i’r gwaith o ddatblygu system i gadw setiau data sy’n berthnasol i Covid-19. Hefyd, maent wedi darparu cymorth arbenigol i ddadansoddwyr ac ymchwilwyr eraill Llywodraeth yr Alban wrth iddynt fynd ati i gael mynediad at setiau data’r pandemig sydd gan gyrff eraill llywodraethau’r DU wrth weithio â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae ymchwilwyr YDG yr Alban mewn cydweithrediad â Llywodraeth yr Alban wedi cyd-lunio ymchwil sy’n hanfodol i bolisi ar Covid-19, gan gynnwys marwolaethau yn y gymuned oherwydd Covid-19 a ffactorau risg ar gyfer Covid-19, a dadansoddiad amserol o farwolaethau mewn cartrefi yn ystod y pandemig.
Mae ymchwil yr Athro Susan McVie ar blismona’r pandemig wedi’i ddyfynnu mewn cyhoeddiad gan Gydbwyllgor Senedd y DU ar Hawliau Dynol ac mewn adroddiad gan Is-bwyllgor Cyfiawnder Senedd yr Alban ar Blismona, ac mae wedi derbyn cyllid pellach i fynd ar drywydd yr ymchwil hwn.
Yn ogystal, mae offeryn newydd arloesol ar gyfer cysylltu aelwydydd – sef yr offeryn CHI-UPRN Residential Linkage (CURL) – wedi gwella dealltwriaeth o drosglwyddo ymhlith aelwydydd yn ystod y pandemig. Mae’n cael ei ddatblygu ymhellach gan rwydwaith data a gwybodaeth Covid-19 yr Alban a bydd yn arf gwerthfawr ar gyfer ymchwil data gweinyddol yn y dyfodol.
Mae ‘Cymru’n Un’ yn bartneriaeth draws-sefydliadol a ffurfiwyd ar ôl y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020 pan roedd angen tystiolaeth yn seiliedig ar ddata ar frys ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi i fynd i’r afael â’r pandemig. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Llywodraeth Cymru, y GIG, YDG Cymru, Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK), Banc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw), BREATHE (Hyb HDR UK ar gyfer Iechyd Anadlol), Llwyfan Data Iechyd Meddwl y Glasoed, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Mae ymchwilwyr YDG Cymru wedi datblygu dull modelu geo-ofodol soffistigedig sy’n amcangyfrif yn agos at amser real nifer yr achosion o heintiadau ar lefel gymunedol gan ddefnyddio data profi Covid-19. Ar anterth y pandemig, comisiynwyd gwaith gan Brif Swyddog Meddygol Cymru i adnabod pobl ‘risg uchel’ ym mhoblogaeth Cymru yn seiliedig ar fethodoleg a ddefnyddir gan GIG Digidol, y cyfeirir ati fel y Rhestr o’r Cleifion a Warchodir. Ymgymerwyd â chasgliad o brosiectau ymateb cyflym a edrychodd ar brofiadau’r bobl ar y Rhestr o’r Cleifion a Warchodir, a’r rhai sy’n byw gyda nhw.
Rhoddodd yr astudiaeth gyntaf ar lefel poblogaeth o risgiau trosglwyddo Covid-19 rhwng disgyblion a staff mewn ysgolion wybodaeth uniongyrchol i Grŵp Cynghori Technegol (TAG) Llywodraeth Cymru a llywio’r broses o wneud penderfyniadau ar ailagor ysgolion yn gynnar yn 2021, wrth ddangos nad oedd cysylltiad rhwng y risg o gael canlyniad positif ymhlith staff ac agor ysgolion rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2020.
Yn ogystal, mae astudiaeth newydd ar y gweill ar hyn o bryd a fydd yn darparu dadansoddiad ôl-weithredol hanfodol o gyfraddau heintiadau’r pandemig ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru. Bu’r prosiect hwn a phrosiectau eraill ledled y DU yn bosibl oherwydd mynediad at setiau data newydd a gafwyd gan YDG Cymru ac a gedwir ym Manc Data SAIL.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae ymchwilwyr o Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) wedi llunio tystiolaeth gynnar ar farwolaethau cysylltiedig â Covid-19 wrth adrodd ar farwolaethau gormodol a’r cysylltiad â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes. Hefyd, mae ymchwil NISRA wedi dangos sut mae marwolaethau Covid-19 wedi’u dosbarthu’n anghyson yng Ngogledd Iwerddon gyda chyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran yn amrywio yn ôl rhyw ac ardal. Mae ymchwilwyr NISRA, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Queen’s, wrthi’n cynnal ymchwil ar ddata cysylltiedig i sefydlu os yw Covid-19 wedi effeithio’n anghymesur ar bobl â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, a gwahanol grwpiau ethnig, grwpiau ag anabledd, grwpiau Adran 75 (er enghraifft, grwpiau crefyddol) a grwpiau economaidd-gymdeithasol.
Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Gogledd Iwerddon (ADRC NI) yn creu setiau data cysylltiedig ar y cyd ag Adran Iechyd Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd, ac mewn cydweithrediad â rhaglen Astudiaethau Craidd Cenedlaethol sefydliad Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK), i feintioli risgiau ac effaith cynllunio darpariaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn well mewn cymdeithas ar hyn o bryd ac ar ôl y pandemig.
Bu Dr Siobhan Murphy, sy’n ymchwilydd yn ADRC NI, yn cydweithio ag Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon i fonitro a gwerthuso’r broses o gyflwyno brechlynnau mewn cartrefi gofal; cyflwynwyd adroddiad i’r Prif Swyddog Meddygol. Bu Dr Murphy, yr Athro Dermot O’Reilly a Dr Declan Bradley yn cydweithio ar un o’r Astudiaethau Craidd Cenedlaethol, sef Gwyliadwriaeth Fferyllol Brechlynnau Covid-19. Hefyd, mae Dr Aideen Maguire a’i thîm yn ymchwilio i effaith y pandemig a’r cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl ymhlith poblogaeth Gogledd Iwerddon.
O ganlyniad i’r rhaglen Gofodau Data Lleol a gyllidir gan YDG Lloegr, mae cyfres o adroddiadau sy’n defnyddio data gweinyddol i ddadansoddi effeithiau lleol Covid-19 bellach ar gael am ddim i bob awdurdod lleol yn Lloegr. Yn y tymor byr, y gobaith yw y bydd y rhain yn cael eu defnyddio gan awdurdodau lleol a rhanddeiliaid i archwilio effeithiau’r pandemig yn eu hardaloedd a llywio eu hymatebion pandemig. Mae dadansoddiadau a wnaed fel rhan o’r rhaglen Gofodau Data Lleol hefyd wedi’u cynnwys yn adroddiadau Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y DU.
Mae prosiect ECHILD yn derbyn cyllid gan YDG Lloegr ac mae’n ymwneud â chreu cronfa ddata barod ar gyfer ymchwil sy’n cysylltu data iechyd, addysg a gofal cymdeithasol ar gyfer holl blant Lloegr am y tro cyntaf. Mae cronfa ddata ECHILD yn cael ei defnyddio gan ymchwilwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain i ddeall sut mae tarfu ar wasanaethau yn ystod y cyfyngiadau symud wedi effeithio ar iechyd ac addysg plant. Bydd canfyddiadau’r gwaith hwn yn helpu’r llywodraeth, a darparwyr gwasanaethau ar gyfer plant agored i niwed, i ddeall anghenion plant yn well a gweld pwy allai fod yn disgyn drwy’r bylchau.
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Mae’r SYG a phartneriaid yn sicrhau bod data o ansawdd uchel ar gael drwy’r Gwasanaeth Ymchwil Diogel, a fu’n hanfodol i lywio ymateb y llywodraeth i’r pandemig. Bu’r SYG yn galluogi casglu data’n gyflym ar gyfer arolygon newydd – gan gynnwys yr Arolwg Heintiadau Covid-19 a’r Arolwg o Ddealltwriaeth ac Amodau Busnes – sydd wedi darparu tystiolaeth hanfodol ar effeithiau economaidd-gymdeithasol hirdymor y feirws. Ategwyd hyn gan ddadansoddiad o setiau data gweinyddol sydd newydd eu cysylltu, i ddeall cyd-destun cymdeithasol-ddemograffig heintiadau a marwolaethau.
Yn ogystal, mae data a gedwir o fewn y Gwasanaeth Ymchwil Diogel wedi’u defnyddio gan y rhaglen Astudiaethau Craidd Cenedlaethol a gyd-gysylltir gan HDR UK i lywio ymatebion tymor agos a hirdymor i bandemig. Mae rhagor o wybodaeth am y setiau data hyn ar gael yng Nghatalog Data’r Gwasanaeth Ymchwil Diogel, sydd ar wefan y SYG. Dylai pob cais i ddefnyddio’r setiau data hyn gael ei wneud drwy’r Gwasanaeth Achredu Ymchwil.
Dysgwch fwy am yr holl brosiectau sydd ar y gweill ar draws partneriaeth YDG y DU ar y dudalen Prosiectau.
Yn ogystal, gellir gweld diweddariad blaenorol ar gyfraniad y bartneriaeth at yr ymateb i’r pandemig, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020.