Mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn amlygu buddion a chyfyngiadau’r defnydd ar ddata i gyflwyno gwasanaethau gyrfaol yng Nghymru.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwilwyr YDG Cymru i ymgymryd ag astudiaeth i archwilio’r cyd-destun polisi a deddfwriaethol y mae’r darparwr gyrfaoedd cenedlaethol, Gyrfa Cymru, yn gweithredu ynddo, defnyddioldeb y data sy’n cael ei ddal gan Gyrfa Cymru a sefydliadau eraill, a’r potensial am rannu data er mwyn cefnogi amcanion Gyrfa Cymru a chynyddu’r budd i’r cyhoedd o’r gwasanaeth.

Nodwch mai barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad, nid o reidrwydd farn Llywodraeth Cymru.

Mae Gyrfa Cymru, a ffurfiwyd yn 2013, yn is-gwmni ym mherchenogaeth lwyr Llywodraeth Cymru, sy’n darparu gwasanaethau gyrfaoedd annibynnol a diduedd i bobl o bob oedran yng Nghymru. Trwy weithio gyda phartneriaid, mae Gyrfa Cymru’n cefnogi ysgolion i ddarparu addysg a gwasanaethau gyrfa, gan ymgysylltu â chyflogwyr a cholegau, yn ogystal â chynnig cymorth i raglenni cyflogaeth Llywodraeth Cymru, fel Cymru’n Gweithio, ReAct+ a rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Gweinidogion Llywodraeth Cymru sy’n darparu cylch gwaith a chyllid Gyrfa Cymru bob blwyddyn.

Gwnaed yr astudiaeth fel rhan o Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Gyrfa Cymru Llywodraeth Cymru, a defnyddiodd gyfuniad o ymchwil bwrdd gwaith a chyfweliadau i roi darlun o ddarparwr y gwasanaeth a sut y gall ddatblygu ei ddefnydd o ddata gweinyddol cysylltiedig.

Ystyriodd yr ymchwil, dan arweiniad ymchwilydd YDG Cymru, Dr Katy Huxley, bolisïau cyflogadwyedd a sgiliau yng Nghymru. Roedd y rhain yn cynnwys y Cynllun Cyflogadwyedd, y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a’r Warant i Bobl Ifanc, yn ogystal ag amcanion strategol Gyrfa Cymru, sef nodi’r data y mae ei angen arnynt i gyfrannu at ymyriadau polisi ehangach.

Archwiliwyd y cyd-destun deddfwriaethol ar lefel llywodraethu Cymru, y DU ac Ewrop er mwyn deall paramedrau dylanwadol gwahanol o ran rhannu data a mynediad at ddata. Archwiliwyd dichonoldeb cysylltu ffynonellau data allanol â data Gyrfa Cymru a datblygu canolfan deallusrwydd data i gyflwyno polisi cyhoeddus yn well ac i ddarparu gwasanaethau yn well.

Aethpwyd i’r afael â chwe chwestiwn ymchwil:

  • Pa anghenion data sy’n cael eu creu gan bolisi sefydliadol a chenedlaethol?
  • A yw’r data a ddelir gan Gyrfa Cymru a phartneriaid yn diwallu’r anghenion hyn, neu a all wneud hynny?
  • Beth yw’r cyd-destun deddfwriaethol ar gyfer rhannu data gweinyddol?
  • A oes materion neu risgiau cyfreithiol, preifatrwydd neu faterion eraill sy’n atal cysylltu data?
  • Beth yw’r manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â rhannu data?
  • Beth, os o gwbl, yw’r dulliau posibl o wella’r defnydd ar ddata ac effeithiolrwydd data?

Edrychodd yr astudiaeth ar y llwybrau cyfreithiol ar gyfer mynediad at ddata, y data sydd ar gael, ac anghenion Gyrfa Cymru a phartneriaid. Daeth i’r casgliad y byddai buddsoddi ymhellach yn asedau data a chysylltu data Gyrfa Cymru yn galluogi data cwsmeriaid a data gweinyddol arall i gael ei ddefnyddio’n well, er mwyn monitro a gwella’r ddarpariaeth, y canlyniadau a gwerthuso’r gwasanaeth.

Mae’r adroddiad yn awgrymu nifer o strategaethau y gellid mynd ar eu trywydd i ategu hyn, gan gynnwys datblygu canolfan deallusrwydd data i gefnogi rhaglenni cymorth cyflogadwyedd o fewn Awdurdodau Lleol.

Meddai Dr Katy Huxley, Swyddog Ymchwil gydag YDG Cymru, “Nod ein gwaith ar draws buddsoddiad ADR UK ac yn YDG Cymru yw amlygu buddion defnyddio data gweinyddol dienw, cysylltiedig. Trwy adeiladu ar y profiad hwnnw, mae’r adroddiad hwn yn ystyried y defnydd o ddata gweinyddol yn fewnol yn Gyrfa Cymru i wella’r ddarpariaeth gwasanaethau a gwella’r gwerthuso. Mae’r argymhellion hyn yn cynnig amrywiaeth eang o ymyriadau a allai helpu i wneud penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth yn Gyrfa Cymru, ac y gellid eu defnyddio’n ehangach hefyd gan sefydliadau partneriaeth sy’n ymwneud â chyflwyno cymorth cyflogadwyedd.”

Gwnaed yr adroddiad i Lywodraeth Cymru gan ysgolheigion Sgiliau a Chyflogadwyedd YDG Cymru, Dr Katy Huxley a Rhys Davies.

Mae YDG Cymru yn rhan o fuddsoddiad ADR UK ledled y DU, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), rhan o UKRI. Mae’n uno arbenigedd ymchwil o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac ystadegwyr WISERD, economegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol o Lywodraeth Cymru. Mae tîm YDG Cymru yn cynnwys ysgolheigion blaenllaw sydd ag arbenigedd yn y materion â blaenoriaeth sy’n wynebu’r genedl, fel y’u nodwyd yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 Llywodraeth Cymru. Caiff yr arbenigedd hwn ei baru â’r angen o fewn y llywodraeth, y trydydd sector a chyrff cyhoeddus am gipolygon amserol wedi’u gyrru gan ddata i sicrhau bod penderfyniadau polisi ar gyfer pobl Cymru’n cael eu gwneud yn y ffordd fwyaf effeithiol a gwybodus.

Mae YDG Cymru wedi bod yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i archwilio sut gall y data y mae’n ei gasglu gael ei ddefnyddio i roi cipolygon newydd i amgylchiadau a galluoedd gwahanol ei gleientiaid i helpu i lywio gwelliannau yn y gwasanaeth a ddarperir.

Darllenwch yr adroddiad llawn.