Dangosydd grymuster Prydau Ysgol Am Ddim (PYD) fel mesur o amgylchiadau economaidd-gymdeithasol dros amser 

Gyda newidiadau i reolau cymhwysedd a’r defnydd o Brydau Ysgol am Ddim (PYD) dros amser, pa mor ddibynadwy yw PYD yn parhau i fod fel dangosydd o amgylchiadau economaidd-gymdeithasol? Bydd y prosiect hwn yn defnyddio data prydau ysgol am ddim a gasglwyd mewn ysgolion, a data’r Cyfrifiad, gan adeiladu ar waith blaenorol o fewn Thema Ymchwil Addysg YDG-Cymru, sydd wedi ystyried cysylltiadau rhwng prydau ysgol am ddim a dangosyddion economaidd-gymdeithasol eraill, er enghraifft o Astudiaeth Carfan y Mileniwm a data Cyfrifiad 2011.  

Newid cwricwlwm a’r effaith ar ganlyniadau dysgwyr  

Cyflwynwyd y Cyfnod Sylfaen (FP) yn llawn yn 2010/11, sy’n golygu bod y garfan lawn gyntaf wedi cwblhau eu TGAU yn 2020/21. Fodd bynnag, gan fod hyn yn ystod pandemig COVID-19, mae angen i’r dadansoddiad ystyried yn ofalus pa effaith y mae’r Cyfnod Sylfaen wedi’i chael ar ganlyniadau diweddarach. Cyflwynwyd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn 2022 ac mae’n darparu newid sylweddol i systemau a phrosesau yng Nghymru, gan gynnwys newidiadau i arholiadau ac asesiadau. Mae’n bwysig bod data addysg yn cael ei ddefnyddio i archwilio gweithrediad ac effaith hirdymor y diwygiadau sylweddol hyn.  

 Lle iawn, amser iawn, cefnogaeth iawn: archwilio darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a chanlyniadau addysgol yng Nghymru 

Mae deall sut mae darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn cefnogi canlyniadau addysgol y rhai â chyflyrau iechyd yn bwysig ar gyfer cynllunio a gweithredu system gymorth effeithiol. Mae ymchwil yn awgrymu bod plant â chyflyrau iechyd yn fwy tebygol o brofi canlyniadau addysgol negyddol, gan gynnwys mwy o waharddiadau, presenoldeb is, a chyrhaeddiad gwaeth. Fodd bynnag, ychydig a wyddys am bwysigrwydd amseru a gweithredu cefnogaeth ar ganlyniadau addysgol.