Anfantais Lluosog Ddifrifol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru

Yn dilyn gwaith a wnaed eisoes yn Lloegr a’r Alban, mae’r prosiect hwn yn darparu tystiolaeth ar raddfa ac amseriad Anfantais Lluosog Difrifol (SMD). Mae ein dadansoddiad yn ymchwilio i raddau’r gorgyffwrdd rhwng anfanteision difrifol digartrefedd, problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, a dibyniaeth ar alcohol. Byddwn yn dilyn carfan o bobl ifanc o’u pen-blwydd yn 16oed, nes iddynt droi’n 25 oed, i archwilio ar ba oedran y profir anfanteision difrifol, a graddfa eu gorgyffwrdd. 

Labordy Data Upstream

Ymyrraeth mewn ysgolion yw Upstream, gyda’r nod o nodi a gweithio gyda phobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl o fod yn ddigartref cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfwng. Mae gan ein maes thema gydweithrediad hirhoedlog â Llamau, elusen digartrefedd ieuenctid yng Nghymru sy’n rhedeg fersiwn Gymreig o Upstream (‘Upstream Cymru’). Rydym wedi gweithio i wella’r offeryn sgrinio a ddefnyddir gan Upstream i gasglu gwybodaeth sydd ei hangen i gefnogi pobl ifanc, yn ogystal â dadansoddi data sgrinio Upstream Cymru i gynhyrchu tystiolaeth ar ddigartrefedd pobl ifanc yng Nghymru.  

Gan fod Upstream bellach wedi’i fabwysiadu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, byddwn yn archwilio dadansoddiad ar lefel y DU ar draws y gwledydd datganoledig. Bydd y prosiect hwn hefyd yn archwilio a all data offer sgrinio sy’n gysylltiedig â data gweinyddol arall helpu i werthuso effaith gwasanaethau Upstream ar ganlyniadau pobl ifanc. 

Cydweithrediad Homewards-Cyngor Dinas Casnewydd

Mae Homewards yn rhaglen pum mlynedd ledled y DU a lansiwyd gan Sefydliad Brenhinol Tywysog a Thywysoges Cymru, gyda’r nod o atal digartrefedd. Mae Casnewydd yn un o chwe lleoliad blaenllaw yn y DU lle mae Homewards yn gweithredu. Un maes allweddol y mae Homewards yn canolbwyntio arno yw harneisio data i yrru newidiadau polisi ac arfer, sef lle mae tîm tai a digartrefedd YDG-Cymru yn cyfrannu. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi data i dîm YDG-Cymru am y gefnogaeth maen nhw’n ei darparu i bobl sy’n profi digartrefedd.  Bydd ein dadansoddiad yn canolbwyntio ar ryngweithiadau â gwasanaethau cyhoeddus a chynghorau cyn ceisio cymorth ar gyfer digartrefedd, gyda’r nod o lywio cynlluniau atal yn y dyfodol.