Cynhadledd Flynyddol WISERD 2023

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y galwad am bapurau nawr AR AGOR ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2023.

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2023Prifysgol Bangor  Dydd Mercher 28 a dydd Iau 29 Mehefin 2023

Thema ein Cynhadledd Flynyddol ywCymdeithas sifil a llywodraethu mewn oes o argyfwng‘.

Mae ein thema yn adlewyrchu heriau byd-eang ac argyfyngau lluosog sy’n siapio cymdeithas sifil, economi a llywodraethu. Rydym yn dyst i fraw cynyddol am dlodi ac anghydraddoldeb cynyddol ar draws y byd wedi’i siapio gan argyfwng ynni byd-eang a chostau byw cynyddol. Yn ogystal, mae pryder cynyddol ynghylch newid yn yr hinsawdd a dirywiad amgylcheddol a’r llifoedd mudo dilynol; goblygiadau gweithredu dinesig mwy radical a newidiadau mewn cymdeithas sifil; a galwadau byd-eang am newidiadau i fodelau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae argoel y bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i gydweithwyr o bob rhan o’r sector academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector rwydweithio a thrafod gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol arloesol o Gymru a thu hwnt sy’n canolbwyntio ar ddulliau a fabwysiadwyd mewn amrywiaeth eang o feysydd polisi. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan gydweithwyr am y meysydd pwnc canlynol, yn enwedig os ydynt yn cyd-fynd â heriau cyfoes:

• Argyfyngau byd-eang a lleol, llywodraethu, a chymdeithas sifil• Newid yn yr hinsawdd, lle a chymdeithas sifil• Cyfranogiad iaith, diwylliant a hunaniaeth• Gwaith, gallu i fyw a chyfiawnder cymdeithasol• Daearyddiaethau anghydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol• Cysylltiadau byd-eang Cymru: cymdeithas sifil a chyfranogiad mewn cyd-destun• Cyfranogiad a chymdeithas sifil trwy gwrs bywyd• Cymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur• Gweithio gyda chymunedau• Ymchwil actifiaeth a chymdeithas sifil• Gwneud ymchwil gyfranogol a gweithredol

Croesewir hefyd bapurau a phosteri ar bynciau eraill o fewn y thema nad ydynt yn dod o dan yr is-themâu uchod. Eleni, hoffem wahodd cynigion am gyflwyniadau papur, sesiynau rhyngweithiol/gweithdai, posteri/arddangosion, neu golocwia mewn unrhyw ddisgyblaeth sy’n ymgysylltu â’r gwyddorau cymdeithasol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau haniaethol yw 9yb ddydd Gwener 20 Ionawr 2023.Byddwch yn ymwybodol bod y llety sydd ar gael ar gyfer cynhadledd WISERD eleni yn gyfyngedig. A wnewch chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os oes angen llety arnoch naill ai ar 27 neu 28 Mehefin, a bydd eich enw yn cael ei ychwanegu at restr aros. Yn anffodus, ni allwn warantu llety i bawb a fydd yn bresennol a byddwn yn darparu hyn ar sail y cyntaf i’r felin.Anfonwch eich crynodebau i WISERDAnnualConference@caerdydd.ac.uk.